Yr Eglwys Forafaidd
Enwad Protestannaidd yw'r Eglwys Forafaidd, yn ffurfiol Unitas Fratrum (Lladin am "Undod y Brawdolion"),[1][2][3] neu yn Almaeneg [Herrnhuter] Brüdergemeine[4] ("Undod Brawdolion [Herrnhut]"). Dyma un o'r eglwysi Protestannaidd hynaf yn y byd, sydd yn olrhain ei hanes i'r Diwygiad Bohemaidd yn y 15g drwy hawlio llinach o Undod y Brawdolion (Tsieceg: Jednota bratrská) a sefydlwyd yn Nheyrnas Bohemia ym 1457. Rhoddwyd yr enw "Morafaidd" ar yr eglwys yn sgil ei hadfywiad yn y 18g, wedi i aelodau Undod y Brawdolion ffoi i Sacsoni, yn enwedig Herrnhut, ym 1722 i ddianc erledigaeth grefyddol ym Morafia. Mae gan yr Eglwys Forafaidd ryw un miliwn o aelodau ar draws y byd yn yr 21g.[5] Mae traddodiadau'r Morafiaid yn tynnu'n gryf ar adfywiad y 18g ac yn pwysleisio eciwmeniaeth, duwioldeb personol, cenhadaeth, a cherddoriaeth. Arwyddlun yr Eglwys Forafaidd yw Oen Duw (Agnus Dei) gyda baner buddugoliaeth a'r arysgrif Lladin "Vicit agnus noster, eum sequamur".
Ffenestr liw o Oen Duw yn Eglwys Forafaidd Capel Iawnderau'r Drindod yn Winston-Salem, Gogledd Carolina, UDA. | |
Enghraifft o'r canlynol | enwad Cristnogol, Christian missionary society |
---|---|
Rhan o | Protestaniaeth |
Yn cynnwys | European Continental Province of the Moravian Church |
Aelod o'r canlynol | Evangelical Missions Agency, Evangelischer Posaunendienst in Deutschland |
Gwefan | https://www.moravian.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Moravian History" (yn Saesneg). Moravian Church of the British Province. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2016. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.
- ↑ (Saesneg) "Unitas Fratrum". Unitasfratrum.org. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.
Unitas Fratrum, the Worldwide Moravian Church consists of Unity Provinces, Mission Provinces, Mission Areas and certain areas of work which are the responsibility of the Moravian Unity as a whole.
- ↑ (Saesneg) "The Unity of the Brethren". Christianity Today (yn Saesneg). 1987. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.
- ↑ (Almaeneg) "Herzlich willkommen". Ebu.de (yn Almaeneg). Evangelische Brüder-Unität - Herrnhuter Brüdergemeine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-11. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.
- ↑ (Saesneg) "Welcome to the Moravian Church". The Moravian Church British Province. Cyrchwyd 9 Ebrill 2020.