Morafia
Rhanbarth hanesyddol yn nwyrain Tsiecia, yng nghanol Ewrop, yw Morafia (Tsieceg a Slofaceg Morava ; Almaeneg Mähren; Hwngareg Morvaország; Pwyleg Morawy). Daw'r enw o Afon Morafa sydd a'i ffynhonnell yng ngogledd-orllewin yr ardal ac roedd yn un o dri prif rhanbarth y wlad (gyda Bohemia a Czech Silesia). Arferai fod yn un o 17 ardal y goron yn Ymerodraeth Awstria-Hwngari rhwng 1867–1918 ac yn un o 5 prif rhanbarth Tsiecoslofacia rhwng 1918–1928. Prifddinas Morafia yw Brno; cyn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain roedd yma dwy brifddinas: Olomouc a Brno.
Math | rhanbarth, Czech lands, ardal hanesyddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Morava |
Prifddinas | Brno, Olomouc |
Nawddsant | Saints Cyril and Methodius |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tsiecia, Protectorate of Bohemia and Moravia, Czech Socialist Republic, Lands of the Bohemian Crown |
Gwlad | Tsiecia |
Arwynebedd | 22,348.87 km² |
Cyfesurynnau | 49.5°N 17°E |
Daearyddiaeth
golyguMae Morafia'n dalp helaeth o Tsiecia, ac yn cynnwys Rhanbarth De Morafia[1] ac ardal y Zlín, yn ogystal ag ardal Moravian-Silesian, Olomouc, Pardubice, Vysočina a De Bohemia.
Mae Morafia'n ffinio gyda Gwlad Pwyl yn y gogledd, Czech Silesia yn y gogledd-ddwyrain, De Awstria yn y de a Bohemia yn y gorllewin. Mynyddoedd y Sudetes yw ei ffin gogleddol, sydd o fewn dim yn troi'n Garpatiau yn y dwyrain. Nadredda'r Dyje yn ffin rhwng Morafia ac Awstria a cheir ardal gadwriaeth o bopty'r afon yn yr ardal a elwir yn Hardegg.
Cyfeiriadau
golygu
Oriel
golygu-
Argae Šance
-
Bryniau Králický Sněžník
-
Baner Morafia