Yr Eisteddfod Ryng-golegol

(Ailgyfeiriad o Yr Eisteddod Ryng-Golegol)

Yr Eisteddfod Ryng-Golegol yw un o uchafbwyntiau cymdeithasol calendr myfyrwyr Cymraeg Cymru. Caiff ei chynnal yn flynyddol yn un o brifysgolion Cymru, tua diwedd Chwefror. Mae'r myfyrwyr yn cystadlu ar ran eu prifysgol i ennill y mwyaf o farciau, a chwpan yr Eisteddfod, mewn cystadlaethau llwyfan a gwaith cartref.

Cynhelir yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn, a cheir gig gyda'r nos. Arhosai'r myfyrwyr o'r prifysgolion gwadd sy'n bell i ffwrdd, mewn ystafell gyffredin neu ffreutur ar y nos Wener. Dychwelant adref ar fwsiau hwyr ar ôl y gig nos Sadwrn.

Yn wahanol i Eisteddfodau traddodiadol mae hon yn fwy swnllyd, gyda nifer o gystadlaethau cellweirus megis "Bing Bong". Bydd myfyrwyr pob prifysgol yn cynhyrchu crysau-T yn arbenning i'r digwyddiad, fel arfer gyda phennill ddoniol ar y cefn.

Cyfranogwyr golygu

Lleoliadau golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

  • 1960 - Prifysgol Bangor[2]
  • 1961 - Prifysgol Aberystwyth[3]
  • 1964 - Prifysgol Bangor[4]
  • 1968 - Prifysgol Bangor[5]
  • 1971 - Prifysgol Bangor[6]
  • 1985 - Prifysgol Aberystwyth
  • 2003 - Prifysgol Bangor
  • 2004 - Prifysgol Abertawe
  • 2005 - Prifysgol Aberystwyth[7]
  • 2006 - Prifysgol Caerdydd
  • 2007 - Prifysgol Bangor
  • 2008 - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (yng Nghaerfyrddin)
  • 2009 - Prifysgol Abertawe
  • 2010 - Prifysgol Aberystwyth
  • 2011 - Prifysgol Caerdydd
  • 2012 - Prifysgol Bangor
  • 2013 - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (yng Nghaerfyrddin)
  • 2014 - Prifysgol Abertawe
  • 2015 - Prifysgol Aberystwyth
  • 2016 - Prifysgol Caerdydd
  • 2017 - Prifysgol Bangor
  • 2018 - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (yn Llanbedr Pont Steffan)
  • 2019 - Prifysgol Abertawe
  • 2020 - Prifysgol Aberystwyth
  • 2021 - Gohiriwyd Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd oherwydd Pandemig COFID-19
  • 2022 - Prifysgol Bangor
  • 2023 - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (yn Llanbedr Pont Steffan)
  • 2024 - Prifysgol Abertawe

Prifysgol fuddigol golygu

  • 2014 - Prifysgol Bangor
  • 2015 - Prifysgol Aberystwyth
  • 2016 - Prifysgol Bangor
  • 2017 - Prifysgol Bangor
  • 2018 - Prifysgol Bangor
  • 2019 - Prifysgol Bangor
  • 2020 - Prifysgol Bangor
  • 2021 - Prifysgol Bangor
  • 2022 - Prifysgol Bangor
  • 2023 - Prifysgol Bangor
  • 2024 - Prifysgol Aberystwyth

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Bangor ar y brig yn yr Eisteddfod Ryng-gol". Golwg360. 2017-03-06. Cyrchwyd 2019-03-03.
  2. "The [Eisteddfod Ryng-golegol Myfyrwyr Prifysgol Cymru 1960 ym Mangor]". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen marw]
  3. "The [Eisteddfod Ryng-golegol Prifysgol Cymru yn Aberystwyth]". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen marw]
  4. "[Eisteddfod Ryng-golegol Bangor]". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen marw]
  5. "Eisteddfod Ryng-Golegol Bangor, 1968". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen marw]
  6. "Eisteddfod ryng-golegol ym Mangor, 1971". search.digido.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-03.[dolen marw]
  7. "www.gwales.com - 8888047042, Yr Awen". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-03-03.

Dolenni allanol golygu