Odyseia

(Ailgyfeiriad o Yr Odyssey)

Un o'r ddwy gerdd fawr a briodolir i'r bardd Groeg Homeros ydy'r Odyseia (Groeg Οδύσσεια (Odússeia)). Fel rheol, ystyrir bod y gerdd wedi ei chyfansoddi rhwng 800 a 600 CC. Mae'n fath ar ddilynianti gerdd fawr arall Homeros, yr Iliad, ac yn rhoi hanes yr arwr Groegaidd Odysews (neu Wlysses) a'i daith adref i Ithaca wedi i'r Groegiaid feddiannu Caerdroea.

Llinellau cyntaf yr Odyseia
John William Waterhouse, 1891

Mae'r daith adref o Gaerdroes yn cymryd deng mlynedd, ac mae Odysseus yn wynebu llawer o beryglon ar y ffordd. Caiff ei achub rhagddynt yn rhannol trwy gymorth y dduwies Athena, ond i raddau helaeth trwy ei gyfrwystra ef ei hun. Er enghraifft, pan mae'n cael ei ddal gan y Seiclops Polyphemus, mae'n dweud wrtho mai ei enw yw "Neb". Mae wedyn yn llwyddo i ddallu Polyphemus; a phan mae yntau'n galw am gymorth daw'r Seiclopsiaid eraill i weld beth sy'n digwydd. Pan maent yn holi Polyphemus pwy sy'n ei boeni, mae'n ateb "Neb". Mae Polyphemus yn fab i dduw'r môr, Poseidon, sy'n troi'n elyn i Odysews.

Mae'n treulio saith mlynedd yn garcharor y nymff Calypso, nes i Athena ei pherswadio i'w ollwng yn rhydd. Erbyn iddo gyrraedd adref i Ithaca, mae wedi bod oddi catref am ugain mlynedd i gyd, ac mae ei dŷ yn llawn o ddynion sy'n dymuno priodi ei wraig, Penelope, gan gredu ei bod bellach yn weddw. Mae Odysews yn lladd y rhain i gyd