Ysgol Bro Cinmeirch
Ysgol naturiol Gymraeg ym mhentref Llanrhaeadr yng Nghinmeirch ydy Ysgol Bro Cinmeirch. Yn Nhachwedd 2012 cafodd yr ysgol Arolwg gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;[1] Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Derbynnir plant i ddosbarth meithrin yr ysgol yn rhan amser yn y tymor yn dilyn eu pen blwydd yn dair oed ac yn amser llawn i’r dosbarth derbyn yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair. Yn ystod yr arolygiad, roedd 69 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Fe’u haddysgir gan bedwar o athrawon amser llawn ac un athrawes ran amser.
Addysgir yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae tua 60% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.
Mae gan y disgyblion yr opsiwn i drosglwyddo ar ddiwedd Blwyddyn 6 naill ai i Ysgol Brynhyfryd neu i Ysgol Glan Clwyd.