Ysgol Glan Clwyd
Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Llanelwy, Sir Ddinbych ydy Ysgol Glan Clwyd. Agorwyd yr ysgol ym 1956 fel yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf erioed. Ar y dechrau roedd yr ysgol wedi'i lleoli yn Y Rhyl (ar safle presennol Ysgol Gymraeg Dewi Sant), ond symudwyd i'w safle presennol yn Llanelwy yn 1969.[2]
Ysgol Glan Clwyd | |
---|---|
![]() | |
Ysgol Glan Clwyd o'r ffordd fawr. | |
Arwyddair | Harddwch, Doethineb, Dysg |
Sefydlwyd | 1956 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Bethan Cartwright |
Dirprwy Bennaeth | Gwawr Meirion |
Lleoliad | Ffordd Dinbych, Llanelwy, Sir Ddinbych, Cymru, LL17 0RL |
AALl | Cyngor Sir Ddinbych |
Disgyblion | 833 (2006)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Gwefan | www.ysgolglanclwyd.co.uk |
Mae gan yr ysgol ddalgylch eang, gyda disgyblion yn teithio o'r ardal arfordirol rhwng Tywyn a Threffynnon hyd at bentrefi Dyffryn Clwyd i'r de ac i'r gorllewin o dref Dinbych. Roedd 725 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mlynyddoedd 7–11 yn ystod arolygiad Estyn 2006, yn ogystal â 108 yn y chweched dosbarth, daeth 30% o’r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith yr aelwyd a 70% o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif neu'n unig iaith. Mae'r un adroddiad hefyd yn dweud fod 95% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf neu i safon gyfatebol.[1]
Ar yr un safle â'r ysgol mae Canolfan Hamdden Llanelwy a Theatr Elwy, sy'n rhannu eu cyfleusterau â'r ysgol.
Côr Ysgol Glan Clwyd Golygu
Mae'r ysgol yn nodedig am ei chorau.
Cyn-ddisgyblion o nod Golygu
- Tara Bethan - Actores
- Becky Brewerton - Golffwraig Broffesiynol
- Dewi Gwyn – Aelod o'r Anhrefn.
- Gareth Jones - Cyflwynwr teledu
- Caryl Parry Jones - Cantores
- Manon Rhys - Llenor
- Bryn Williams - (g. 6 Mehefin 1977); cogydd a pherchennog 'Bwyty Odette', Bryn y Briallu, Llundain.[3] a chyflwynydd teledu.
- Mark Evans - Cantor
- Beth Jones - Comediwraig