Ysgol Bro Tryweryn

ysgol yn y Fron-goch, Gwynedd

Ysgol gynradd yn y Fron-goch ym Mhenllyn ger y Bala, Gwynedd yw Ysgol Bro Tryweryn. Adeiladwyd yr ysgol ar ôl boddi Capel Celyn, ar leoliad yr hen warchodfa rhyfel. Bu'n ffatri chwisgi cyn hynny.

Daw 78% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a buan iawn y daw'r dysgwyr i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.