Fron-goch

pentref yng Ngwynedd

Pentref i'r gogledd o'r Bala yng Ngwynedd yw Fron-goch ("Cymorth – Sain" ynganiad ), lle mae'r B4501 yn gadael y briffordd A4212 i Drawsfynydd. Mae Afon Tryweryn yn rhedeg heibio'r pentref.

y Fron-goch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.942°N 3.629°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH905392 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Hanes golygu

Yn ystod rhan gyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd carcharorion rhyfel Almaenig eu cadw yn Carchar Gwersyll Fron-goch a oedd yn wreiddiol yn adeilad y ddistyllfa. Ond yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon ym 1916 cafodd yr Almaenwyr eu disodli gan dros 1,800 o wirfoddolwyr yr Irish Republican Brotherhood (yr IRA yn ddiweddarach).

Ymhlith carcharorion y gwersyll yr oedd Michael Collins, Dick Mulcahy, Tomás MacCurtain, Terence MacSwiney a Seán T. O'Kelly. Bu y carchar yn gyfle i'r IRA ddatblygu eu syniadau chwyldroadol, ac awgrymir fod Michael Collins a'i gymrodyr wedi rhoi gwersi mewn ymladd a milwriaeth i'w gyd-garcharorion. Daeth llawer o gyn-garcharorion Fron-goch yn arweinwyr y rhyfel dros annibyniaeth Iwerddon. Daethpwyd i adnabod Fron-goch fel "Prifysgol Sinn Féin", neu "Brifysgol y Chwyldro" (ollscoil na réabhlóide).

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu