Ysgol naturiol Gymraeg ym mhentref Clocaenog, Sir Ddinbych, Cymru, ydy Ysgol Clocaenog, sy'n gwasanaethu pentrefi Clocaenog, Clawddnewydd, Derwen a'r ardaloedd cyfagos. Y Pennaeth yn Nhachwedd 2012 oedd Miss Einir Wynne Jones.

Ysgol Clocaenog
Mathysgol gynradd, ysgol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych, Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Yn Nhachwedd 2012 roedd 36 o blant yn yr ysgol, sef y nifer mwyaf y gall ei dderbyn - dim lle gwag. Er hyn, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i aildrefnu addysg yn y cylch.[1]

Arwyddair yr ysgol yw: Helpu ein gilydd a gwneud ein gorau glas pob amser. Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Brynhyfryd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Denbighshire Free Press; cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2012

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato