Ysgol Gymunedol Beulah
Ysgol gynradd gymunedol Gymraeg yw Ysgol Gymunedol Beulah, a leolir ym mhentref Beulah, Ceredigion.
Ysgol Gymunedol Beulah | |
---|---|
Sefydlwyd | (Cyn 1917) |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs Hazel Davies |
Lleoliad | Beulah, Castell Newydd Emlyn, Ceredigion, Cymru, SA38 9QB |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | 25[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 4–11 |
Lliwiau | Glas |
Gwefan | beulah.ceredigion.sch.uk |
Roedd 25 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2007. Dim ond tua 25% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith, ond siaradai 79% ohonynt y Gymraeg i safon iaith gyntaf. Mae'r ysgol yng nghategori A yn ôl polisi iaith yr Awdurdod Addysg Lleol, gan olygu mai Cymraeg yw prif iaith addysgu'r ysgol.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Phillip David Watcyn Edwards (10 Rhagfyr 2007). Adroddiad Adolygiad Ysgol Gynradd Beulah, 8 Hydref 2007. Estyn. Adalwyd ar 19 Awst 2011.