Castellnewydd Emlyn
Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castellnewydd Emlyn[1] (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol); ceir y ffurf Castell Newydd Emlyn hefyd. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,146 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.04°N 4.47°W |
Cod SYG | W04000549 |
Cod OS | SN305405 |
Cod post | SA38 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[3]
Hanes
golyguSafai Castellnewydd Emlyn yng nghantref Emlyn, ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y castell, sydd nawr yn adfeilion, gan y Normaniaid. Cafodd ei chyfeirio ati gyntaf ym Mrut y Tywysogion ym 1215 pan gipwyd hi gan Llywelyn ap Iorwerth[4].
Ymwelodd Gerallt Gymro ag Emlyn yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188.
Bellach, mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur.
Cyfleusterau ac atyniadau
golyguYn y dref mae neuadd tref, oriel gelf, theatr (Attic Theatre) ac ysgol uwchradd (Ysgol Gyfun Emlyn). Lleolir Amgueddfa Wlân Cymru a Rheilffordd Dyffryn Teifi gerllaw.
Yn wahanol i nifer o drefydd gwledig Cymru, mae Castellnewydd Emlyn wedi llwyddo i gadw ystod helaeth o wasanaethau lleol, ar ffurf busnesau teuluol yn bennaf. Lleolir y dref mewn ardal amaethyddol, ac adlewyrchir hyn gan gyflogwr mwyaf y dref, sef ffatri Saputo sy'n cynhyrchu caws Mozzarella. Maen nhw'n un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws Mozzarella ym Mhrydain.
Y Gymraeg
golyguHyd at y 1960au, roedd ymhell dros 90% o boblogaeth Castellnewydd Emlyn yn Gymry Cymraeg a'r Gymraeg oedd iaith gwaith ac aelwyd yn y dref. Ond fel mewn sawl rhan arall o'r wlad cafwyd mewnlifiadau sylweddol o bobl o'r tu allan i Gymru, Saeson yn bennaf, ac mae sefyllfa'r iaith wedi newid o ganlyniad. Er hynny, erys y Gymraeg yn iaith y mwyafrif, sef tua 69% o'r boblogaeth o 941, ac fe'i siaredir gan 90% o'r bobl yno a anwyd yng Nghymru (Cyfrifiad 2001).
Gwiber Castellnewydd Emlyn
golyguMae chwedl Gwiber Castellnewydd Emlyn yn adrodd hanes gwiber ffyrnig gydag adain, a oedd yn anadlu tân a mwg, yn glanio ar furiau'r castell a disgyn i gysgu yno. Ymledodd ofn i gychwyn, ond yn fuan dechreuodd pobl y dref gynllwynio i ddinistrio'r bwystfil. Dyfeisiodd milwr gynllun i rydio i'r Afon Teifi a cheisio saethu'r Wiber mewn rhan gwan o'i gorff. Disgynnodd y Wiber i'r afon wedi iddo gael ei saethu, gwenwynwyd yr afon gan y corff a lladdwyd yr holl bysgod.[5]
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Pobl o Gastellnewydd Emlyn
golygu- Evan Herber Evans (1836-96), gweinidog annibynnol.
- Dill Jones (1923-84), pianydd brasgam jas,
- John Jones (Mathetes) (1821-1878). Awdur a gweinidog.
- Peter Rees Jones (1843-1905), sefydlydd siop adrannau.
- Allen Raine (1836-1908), nofelydd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dau air yn ôl [Dictionary of Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan]
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines and Peredur Lynch (2008) pg609 ISBN 9780708319536
- ↑ Newcasle Emlyn Millennium Edition Historical Notes About Our Town pp10, Pamela Jenkins (1999) Castle Publications
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Caerfyrddin · Castellnewydd Emlyn · Cydweli · Hendy-gwyn · Llandeilo · Llanelli · Llanybydder · Llanymddyfri · Porth Tywyn · Rhydaman · Sanclêr · Talacharn
Pentrefi
Aberarad · Aberbowlan · Abercrychan · Abergorlech · Abergwili · Aber-nant · Alltwalis · Babel · Bace · Bancycapel · Bancyfelin · Y Betws · Bethlehem · Blaengweche · Blaenos · Blaen-waun · Blaen-y-coed · Brechfa · Broadway · Bronwydd · Bron-y-gaer · Bryn · Brynaman · Bryn Iwan · Bwlch-clawdd · Bwlchnewydd · Bynea · Caeo · Capel Dewi · Capel Gwyn · Capel Hendre · Capel Isaac · Capel Iwan · Capel Seion · Carmel · Carwe · Cefn-bryn-brain · Cefneithin · Cefn-y-pant · Cenarth · Cilgwyn · Cilsan · Cil-y-cwm · Croesyceiliog · Cross Hands · Crug-y-bar · Crwbin · Cwm-ann · Cwm-bach (1) · Cwm-bach (2) · Cwm-du · Cwmduad · Cwmfelin-boeth · Cwmfelinmynach · Cwmgwili · Cwmhiraeth · Cwmifor · Cwmisfael · Cwmllyfri · Cwm-miles · Cwm-morgan · Cwm-pen-graig · Cwrt-henri · Cwrt-y-cadno · Cynghordy · Cynheidre · Cynwyl Elfed · Derwen-fawr · Derwydd · Dinas · Dolgran · Dre-fach · Dre-fach Felindre · Dryslwyn · Dyffryn Ceidrych · Efail-wen · Esgair · Felin-foel · Felin-gwm · Felin-wen · Foelgastell · Ffair-fach · Ffaldybrenin · Ffarmers · Fforest · Ffynnon · Garnant · Garthynty · Gelli-aur · Gelli-wen · Glanaman · Glan Duar · Glan-y-fferi · Gorllwyn · Gors-las · Gwernogle · Gwyddgrug · Gwynfe · Hebron · Yr Hendy · Henllan · Henllan Amgoed · Hermon · Horeb · Login · Llanarthne · Llanboidy · Llan-dawg · Llandeilo Abercywyn · Llandre (1) · Llandre (2) · Llandybïe · Llandyfaelog · Llandyry · Llanddarog · Llanddeusant · Llanddowror · Llanedi · Llanegwad · Llanfair-ar-y-bryn · Llanfallteg · Llanfihangel Aberbythych · Llanfihangel Abercywyn · Llanfihangel-ar-Arth · Llanfihangel-uwch-Gwili · Llanfynydd · Llangadog · Llan-gain · Llangathen · Llangeler · Llangennech · Llanglydwen · Llangyndeyrn · Llangynin · Llangynnwr · Llangynog · Llanishmel · Llanllawddog · Llan-llwch · Llanllwni · Llanmilo · Llannewydd · Llannon · Llanpumsaint · Llansadwrn · Llan-saint · Llansawel · Llansteffan · Llanwinio · Llanwrda · Llan-y-bri · Llanycrwys · Llwyn-croes · Llwynhendy · Llwyn-y-brain (1) · Llwyn-y-brain (2) · Maenordeilo · Maerdy · Maes-y-bont · Marros · Meidrim · Meinciau · Merthyr · Morfa · Myddfai · Mynydd-y-garreg · Nantgaredig · Nant-y-caws · New Inn · Pant-gwyn · Pantyffynnon · Parc-y-rhos · Pedair Heol · Pen-boyr · Pen-bre · Pencader · Pencarreg · Peniel · Penrherber · Penrhiw-goch · Pentrecagal · Pentrecwrt · Pentrefelin · Pentre Gwenlais · Pentre Tŷ-gwyn · Pentywyn · Pen-y-banc · Pen-y-bont (1) · Pen-y-bont (2) · Pen-y-garn · Pen-y-groes · Pinged · Plas · Pont Aber · Pontaman · Pontantwn · Pont-ar-Gothi · Pont-ar-llechau · Pont-ar-sais · Pont Hafod · Pont-henri · Pont-iets · Pont-tyweli · Pontyberem · Porth-y-rhyd · Pum Heol · Pumsaint · Pwll · Pwll-trap · Ram · Rhandir-mwyn · Rhos · Rhosaman · Rhos-goch · Rhos-maen · Rhydargaeau · Rhydcymerau · Rhyd Edwin · Rhydowen · Rhyd-y-wrach · Salem · Sandy · Sarnau · Saron (1) · Saron (2) · Soar · Sylen · Taliaris · Talog · Talyllychau · Tir-y-dail · Trap · Trefechan · Trelech · Trimsaran · Twynllannan · Tŷ-croes · Y Tymbl · Waunclunda · Waun y Clyn · Ystrad Ffin