Ysgol Gynradd Glanrafon

Ysgol gynradd Gymraeg yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Ysgol Gynradd Glanrafon, ar gyfer plant 3 i 11 oed. Agorwyd yr ysgol ar hen safle Ysgol Maes Garmon ar Lôn Bryn Coch. Lleolir uned adnawdd anghenion arbennig ar gyfer ysgolion Cymraeg Sir y Fflint yn yr ysgol.[1]

Ysgol Gynradd Glanrafon
Arwyddair Dwy ffenestr ar y byd
Sefydlwyd (Ar ôl 1961)
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad Lôn Bryn Coch, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Cymru, CH7 1PA
AALl Cyngor Sir y Fflint
Disgyblion 265[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11

Roedd 265 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005. Daw tua 30% o ddisgyblion o gartrefi ble mae'r Gymraeg yn brif iaith.[1]

Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Maes Garmon.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Adroddiad Arolygiad 11–13 Ionawr 2005. Estyn (15 Mawrth 2005).
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.