Ysgol Gynradd Gwernymynydd

Ysgol gynradd Saesneg ei hiaith yng Ngwernymynydd ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Ysgol Gynradd Gwernymynydd neu Gwernymynydd County Primary School, ar gyfer plant 3 i 11 oed. Symudodd yr ysgol o'i hadeilad gwreiddiol i safle newydd yn yr 1950au. Mae'r hen ysgol wedi cael ei droi'n dŷ, ond mae ychydig o elfennau o'r hen ysgol wedi cael eu cadw megis cloch yr ysgol, sy'n cael ei daro ar achlysurau arbennig megis Dydd y Cofio.[2]

Ysgol Gynradd Gwernymynydd
Adeiladau gwreiddiol yr ysgol
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad Godre'r Coed, Gwernymynydd, Sir y Fflint, Cymru, CH7 4AF
AALl Cyngor Sir y Fflint
Disgyblion 71[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11

Roedd 71 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, Saesneg oedd unig iaith pob plentyn.[1]

Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Alun.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Merfyn Douglas Jones (10 Awst 2005). Adroddiad Arolygiad Ysgol Gynradd Gwernymynydd, 27–29 Mehefin 2005. Estyn.
  2.  A History of Gwernymynydd Village, Flintshire. Cyngor Cymuned Gwernymynydd.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.