Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, yw Ysgol Alun (Saesneg: Alun School), ar gyfer plant 11 i 18 oed. Ffurfiwyd yn 1970 fel canlyniad o uno Ysgol Ramadeg Alun (Alun Grammar School) ac Ysgol Daniel Owen (Daniel Owen Secondary Modern School).

Ysgol Alun
Alun School
Sefydlwyd 1970
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Ashley Jones
Dirprwy Bennaeth Mrs J Cooper
Lleoliad Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Cymru, CH7 1EP
Staff dros 100
Disgyblion tua 1750
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Coch a du
Gwefan http://www.alunschool.co.uk

Mae adeiladau presennol yr ysgol yn dyddio o 1938, ac mae mwy o ddisgyblion yn yr ysgol nag y gellir yr adeilad eu dal yn swyddogol.[1] Roedd 1475 o ddisgyblion yn yr ysgol ym 1998 a 1675 yn 2004. Erbyn hyn mae tua 1750 o ddisgyblion a drost 100 o staff addysgu. Er fod yr ysgol yn orlawn, mae adroddiad Estyn 2004 yn disgrifio'r safon dysgu yn dda neu'n dda iawn ym mhob pwnc, gan nodi fod y nifer sy'n cario ymlaen i addysg uwch yn fwy na'r cyfartaledd.[1] Mae drost 500 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth, gan ei gwneud yn chweched ddosbarth mwyaf Cymru, ac un o'r mwyaf ym Mhrydain. Mae'n rhannu cyfleusterau megis canolfan hamdden a theatr gydag Ysgol Maes Garmon gerllaw.

Prifathrawon golygu

  • William Lloyd Parry (sefydlydd) 1880-1922
  • JE Parry (1930?)
  • Joseph Jones (1950au)
  • Gareth Lloyd Jones (graddedig o Rydychen) (tua'r 1960au)
  • D V Leadbeater (1960au)

Noder: Roedd y prifathrawon uchod yn Ysgol Ramadeg Alun, rhestrir isod prifathrawon Ysgol Alun yn ei chyfnod fel ysgol gyfun.

  • Wyn Williams (1971–1972)
  • Gerry German (diswyddwyd) (1972–1974)[2]
  • David Williams 1991–1997
  • Paul Mulraney 1997–2008
  • Ashley Jones 2008–

Cyn-ddisgyblion o nôd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu