Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago

Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym Mhontarddulais ydy Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 3 ac 11 oed, mae'n yn bwydo Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregŵyr, Abertawe.

Roedd 225 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2009.[1] Mae'r ysgol ar ddwy safle, "Bryniago Bach" sef adeilad dros-dro a adeiladwyd ym 1948 lle addysgir plant o dan 5 oed; a'r brif ysgol lle addysgir gweddill y disgyblion. Daw 80% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Saesneg yn brif iaith.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Swydd Dirprwy Bennaeth. TES Connect. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2009.
  2.  Adroddiad arolwg Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago, 25–27 Tachwedd 2003. Estyn (29 ionawr 2004). Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2009.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.