Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug
Ysgol gynradd gymunedol Saesneg yn ardal Plascrug, Aberystwyth, Ceredigion, yw Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug. Mae'n darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed, mae dosbarth meithrin rhan-amser ar gyfer y plant ifengaf.[1] Diffinnir fel ysgol yng nghategori B polisi iaith yr awdurdod lleol, felly Saesneg yw prif iaith yr ysgol a dysgir y Gymraeg fel ail iaith. Roedd 362 o blant yn yr ysgol yn 2006.[2]
Math | ysgol gynradd, ysgol ddwyieithog |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.410149°N 4.074758°W |
Cod post | SY23 1HL |
Adeiladwyd estyniad newydd ar gyfer yr ysgol a agorwyd yn 2011, gan gael gwared ar hen gabanau ac adeiladau dros dro'r ysgol a oedd bellach yn anaddas ar gyfer addysgu. Gosodwyd celloedd ffotofoltäig ar y to er mwyn cyflenwi trydan, ac amcangyfrifir i rhain wneud elw o £513 y mis.[3]
Mae'r ysgol wedi ei lleoli y drws nesa i Glwb Rygbi Aberystwyth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ysgol Gynradd Plascrug. Cyngor Sir Ceredigion. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2011.
- ↑ Huw Jones (19 Gorffennaf 2006). Adroddiad Arolygiad 22 Mai 2006 (Saesneg). Estyn.
- ↑ Ysgol Gynradd Plascrug - Aberystwyth. Ysgolion yr 21ain ganrif. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2011.