Ysgol I.D. Hooson
Ysgol gynradd ddwyieithog ddynodedig ym mhentref Pentredŵr ger Rhosllannerchrugog, Wrecsam ydy Ysgol I.D. Hooson. Enwyd yr ysgol ar ôl y bardd o Rosllannerchrugog, Isaac Daniel Hooson.
Ysgol I.D. Hooson | |
---|---|
Math | Cynradd |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg |
Lleoliad | Pentredŵr, Rhosllannerchrugog, Wrecsam, Cymru, LL14–1DD |
AALl | Wrecsam |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Roedd 201 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod arlogiad Estyn 2005, yn ogytsal a 32 o blant rhan amser yn y dosbarth meithrin.Dim ond 15% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith.[1]
Symudodd yr ysgol i adeiladau newydd sbon ar hen safle gweithfeydd brics ym mis Medi 2007.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Adroddiad Arolygiad Ysgol I.D. Hooson 3 – 5 Mai 2005. Estyn (8 Gorffennaf 2005).
- ↑ Over 200 pupils have returned to a brand new school following the completion of Ysgol ID Hooson in Rhos. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (6 Medi 2007).