Ysgol Llanllechid
ysgol yng Ngwynedd
Ysgol gynradd yn Rachub, Dyffryn Ogwen, yw Ysgol Llanllechid sydd yn nalgylch Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
Math | ysgol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.189029°N 4.064771°W |
Gwenan Davies Jones yw ei phrifathrawes bresennol[angen ffynhonnell] ac mae'r ysgol yn un cyd-addysgiadol ar gyfer disgyblion 3-11.
Siarter Iaith
golyguMae'n ysgol ddwyieithog Cymraeg a Saesneg, er mai Cymraeg yw'r prif iaith dysgu.
“ | Nôd syml y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r
Gymraeg gan eu hysbrydoli i wneud defnydd llawn o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol – y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, y rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.[1] |
” |
Clybiau
golyguYn yr ysgol, cynhelir gwahanol glybiau gan gynnwys:
- Clwb Ffrangeg
- Clwb Newyddiadura
- Clwb Gitâr
- Clwb Chwaraeon y Ddraig
- Clwb Cyfrifiaduron
- Clwb Pêl droed[2]