Bethesda

pentref yng Ngwynedd

Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Bethesda. Saif yn Nyffryn Ogwen, a enwyd ar ôl Capel Bethesda. Mae ei thrigolion yn aml yn cyfeirio ati fel Pesda. Mae Caerdydd 193.8 km i ffwrdd ac mae Llundain yn 334.4 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 8.6 km i ffwrdd.

Bethesda
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,735, 4,649 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd389.31 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1794°N 4.0603°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000049 Edit this on Wikidata
Cod OSSH624667 Edit this on Wikidata
Cod postLL57 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auClaire Hughes (Llafur)
Map
Erthygl am bentref yng Ngwynedd yw hon. Gweler hefyd Bethesda (gwahaniaethu).

Bu pobl yn byw yn Nyffryn Ogwen am ganrifoedd cyn i Fethesda ei hun ddyfod, gyda phlwyf Llanllechid yn un o'r mannau mwyaf poblog. Ni dyfodd yr ardal nes agor Chwarel y Penrhyn yn yr 18g, gyda theulu Warburton yn berchen arni. Hyd heddiw, hi yw'r chwarel mwyaf yn y byd a wnaed heb beiriannau, ac yn ei hanterth cyflogai tua 5,000 o weithwyr, ac allforiai llechi o amgylch y byd; roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn cysylltu'r chwarel a dociau Porth Penrhyn, ger Bangor.

Er y bu sawl streic yn y chwarel yn yr 1880au a'r 1890au, mae'r dref yn enwog am Y Streic Fawr a fu rhwng 1900-3 wrth i weithwyr gael eu cau allan o'r chwarel wedi ffrae am gyflogau. Ym 1901 gadawyd unrhyw un a hoffai weithio ddychwelyd, gan greu rhwyg chwerw yn y pentref rhwng y streicwyr a'r 'cynffonwyr'. Er y daeth y streic i ben ym 1903 ni adfywiodd y pentref, wrth i'r diwydiant llechi ddirywio ac wrth i tua hanner ei phoblogaeth allfudo.

 
Hen ffotograff o Fethesda a'r chwarel yn y cefndir; 1885 gan John Thomas

Yn ôl cyfrifiad 2001 yr oedd 4,327 o bobl yn byw yng nghymuned Bethesda (sy'n cynnwys pentref Rachub ac ardal Gerlan), gyda 77.0% ohonynt yn medru'r Gymraeg. Ym 1991 roedd y ffigur hwn yn uwch, gydag oddeutu 80% o'r boblogaeth yn ei medru. Mae'r boblogaeth a'r canran sy'n medru'r Gymraeg wedi dirywio dros y ganrif ddiwethaf - ym 1901, yn ystod adeg y Streic Fawr, roedd tua deng mil o bobl yn byw yn yr ardal, gyda 99% ohonynt yn siarad Cymraeg, sef y ffigur uchaf yng Nghymru ar y pryd.

Ffugenw pobl Bethesda yw'r How Gets. Mae hyn yn deillio o'r ystrydeb bod pobl Bethesda â Saesneg gwael, a byddent wastad yn gofyn i deithwyr di-Gymraeg "How get you here?". Yn ddiweddarach mae gan ei phobl enw am fod ag acen "ymosodol" a chaletach na gweddill y cyffuniau.

Heddiw, mae gan bobl Bethesda ymwybyddiaeth gref am hanes eu pentref, yn enwedig o'r Streic Fawr. Bydd yr enw 'Penrhyn' (yn cyfeirio at deulu Penrhyn) dal yn corddi'r trigolion, a hyd yn oed canrif wedi'r Streic gwrthoda llawer ymweld â hen gartref y teulu hwnnw yng Nghastell Penrhyn.

Gwaith

golygu

Hyd heddiw Chwarel Y Penrhyn yw un o brif gyflogwyr y pentref, gyda thua 300 o weithwyr. Mae ffatri Austin Taylor's hefyd yn gyflogwr pwysig. Serch hyn, nid oes fawr o gyfleon i bobl ifanc yn y pentref, a bydd nifer yn gadael am lefydd fel Caerdydd a Manceinion. Mae llawer o'r boblogaeth yn gorfod comiwtio i'w gwaith, gan fod Bangor yn fan poblogaidd iddynt.

O ddydd i ddydd

golygu

Cymraeg yw prif iaith y pentref, ac fe'i gwelir a'i chlywir ymhobman. Mae Bethesda yn enwog am ddau beth yn benodol, sef y nifer o dafarndai yno a'r nifer o gapeli. Mae gan gymuned Bethesda wyth o dafarndai (chwech ohonynt yn y Stryd Fawr), a mae tri lle arall lle y gellid yfed. Yn wahanol i'r arfer, noson prysuraf Bethesda yw'r nos Sul. Mae nifer rhyfeddol o lefydd yn gwerthu prydau parod. Mae hefyd tair caffi yn y stryd fawr.

Mae tair ysgol gynradd yn y gymuned, ac un ysgol uwchradd sef Ysgol Dyffryn Ogwen, sydd â thua 400 o ddisgyblion a 30 o athrawon.

Llais Ogwan yw'r papur bro lleol, ac mae'n gwerthu tua 2000 o gopïau pob mis.

Enwogion

golygu
  • David Ffrangcon Davies (1855-1918), cantor opera.
  • Caradog Prichard - nofelydd a bardd, a enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dair gwaith yn olynol.
  • R. Williams Parry - bardd enwog ac addfwyn. Un o'i gerddi enwocaf yw Eifionydd. Mae'r bardd wedi'i gladdu ym mynwent Coetmor.
  • Emrys Edwards - bardd ac offeiriad a enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1961 gyda'i Awdl Foliant i Gymru
  • Gruff Rhys - prif leisydd gyda Ffa Coffi Pawb, cyn symud ymlaen at y Super Furry Animals. Mae hefyd wedi rhyddau albwm ei hun.
  • John Ogwen - Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru.
  • Dafydd Orwig - Cynghorydd Plaid Cymru fu'n frwd dros addysg Gymraeg.
  • John Doyle - Gitarydd a cherddor a ddaeth i amlygrwydd fel un o'r deuawd Iwcs a Doyle.
  • Mikael Madeg - awdur Llydewig a fu'n byw ym Methesda am ddwy flynedd fel athro cynorthwyol Ffrangeg yn Ysgol Dyffryn Ogwan 1971–4
  • Ieuan Wyn - bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Madog 1987 gyda'i awdl "Llanw a Thrai."
  • Gwynfor ab Ifor - bardd a gipiodd gadair yr Eisteddfod genedlaethol yn Abertawe yn 2006 am ei awdl "Tonnau"
  • Dafydd Hedd - canwr / chyfansoddwr sy’n gigio yn aml yn yr ardal

Trefi eraill o'r un enw

golygu

Heblaw am y Bethesda wreiddiol yn y Beibl, mae yna un ar hugain o drefi o'r enw "Bethesda" yn Unol Daleithiau America a Chanada; y mwyaf enwog ohonynt yw Bethesda, Maryland (gweler Bethesda (gwahaniaethu)).

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bethesda (pob oed) (4,735)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bethesda) (3,501)
  
77.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bethesda) (3671)
  
77.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bethesda) (686)
  
33.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.