Ysgol Steiner yn Llan-y-cefn, ger Clunderwen, Sir Benfro, ar gyfer plant 3 i 14 oed yw Ysgol Nant-y-Cwm. Hon oedd yr ysgol Steiner gyntaf yng Nghymru. Sefydlwyd ym 1979, mewn adeiladau hen ysgol Fictoraidd Ysgol Llan-y-cefn, a gaewyd 15 mlynedd ynghynt, wedi iddi agor ym 1875.[1]

Ysgol Nant-y-Cwm
Arwyddair "Our highest endeavour must be to develop free human beings, who are able of themselves to impart purpose and direction in their lives."
Ystyr yr arwyddair "Ein uchelgais yw i ddatblygu bodau dynol rhydd, â'r gallu o'u hunain i roi pwrpas a chyfeiriad yn eu bywyd."
Sefydlwyd 1979
Math Ysgol annibynnol, Steiner
Lleoliad Llan-y-cefn, ger Clunderwen,
Sir Benfro, Cymru, SA66 7QJ
AALl Cyngor Sir Benfro
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–14
Gwefan nant-y-cwm.co.uk

Mae'r ysgol yn aelod o Gymdeithas Ysgolion Steiner Waldorf, ac yn elusen gofrestredig a caiff ei ariannu gan roddion.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Naws am Le: Maenclochog, Rosebush/Rhos-y-bwlch, Llan-y-cefn. Experience Pembrokeshire. Adalwyd ar 29 Mehefin 2012.
  2.  Ysgol Nant-y-Cwm Newsletter Spring 2012. Adalwyd ar 29 Mehefin 2012.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.