Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn
(Ailgyfeiriad o Ysgol Parc y Tywyn)
Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, ydy Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn, sy'n darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3½ ac 11 oed. Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Gyfun y Strade.
Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn | |
---|---|
Arwyddair | Nid da lle gellir gwell |
Sefydlwyd | 1965 |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Miss D.Jenkins |
Lleoliad | Heol Elfed, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA16 0AL |
AALl | Cyngor Sir Gâr |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Lliwiau | Coch |
Gwefan | parcytywyn.co.uk |
Hanes
golyguSefydlwyd Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn ar 4 Hydref 1965. Cynhaliwyd y gwersi yn neuadd goffa'r dref.[1] Symudodd i'w safle presennol ar Heol Elfed ym 1972. Tyfodd yr ysgol yn fuan a bu rhaid codi nifer o gabanau erbyn 1978, sydd dal mewn defnydd hyd 2012.[2] Roedd 49 o ddisgyblion ar agoriad yr ysgol,[3] a thua 90 erbyn 1995. Roedd hyn wedi dyblu i 184 erbyn 2006,[4] ac ym mis Ionawr 2012, roedd 247 o ddisgyblion yn yr ysgol.[5] Arwyddodd dros 1,500 o drigolion Porth Tywyn ddeiseb yn galw am adeiladau newydd.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ysgol Gymraeg Parc-y-Tywyn. Cyngor Tref Penbre a Phorth Tywyn. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
- ↑ Ymgyrch i godi ysgol Gymraeg newydd ym Mhorth Tywyn. BBC (30 Ebrill 2012). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
- ↑ Yr Ysgol. Ysgol Parc y Tywyn. Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
- ↑ Adroddiad Arolygiad Ysgol Parc y Tywyn. Estyn (Ionawr 2006). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
- ↑ Adroddiad Arolygiad Ysgol Parc y Tywyn. Estyn (Ionawr 2012). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.
- ↑ 1,500 sign up to call for new school building. Llanelli Star (27 Mehefin 2012). Adalwyd ar 27 Mehefin 2012.