Ysgol Pen Barras
Ysgol gynradd Gymraeg yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Pen Barras. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 3 ac 11 oed. Mae’r ysgol yn rhannu safle gydag Ysgol Stryd y Rhos.[1]
Roedd 204 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2005, yn ogystal â 29 o blant meithin a fynychai'r ysgol yn ran-amser. Daeth 60% o'r disgyblion o gartrefi lle siaradwyd y Gymraeg yn rhugl yn 2005, ond roedd hanner y plant meithrin yn ddysgwyr.[1] Erbyn Tachwedd 2012 roedd 221 o blant ar gofrest yr ysgol a 32 o lefydd gweigion (12.7%). Cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i aildrefnu addysg yn y cylch.[2]
Y prifathro presennol yw Mr Marc Lloyd Jones.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Adroddiad arolygiad Ysgol Pen Barras, 17–18 Mai 2005. Estyn (20 Gorffennaf 2005).
- ↑ Denbighshire Free Press; cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2012