Mudiad Ysgolion Meithrin

Elusen a darparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol.

Mudiad a ffurfiwyd yn 1971 gyda'r amcan o sefydlu ysgolion meithrin Cymraeg led-led Cymru a hyrwyddo addysg feithrin yn yr iaith yw'r Mudiad Ysgolion Meithrin. Ym Mai 2017 trefnodd y mudiad ddigwyddiad Parti Pyjamas Mwyaf y Byd! i godi'r ymwybyddiaeth o'r holl grwpiau gofal ac addysg Gymraeg. Mae'r Mudiad yn gweithredu polis trochi ieithyddol er mwyn cynorthwyo plant o gefndir di-Gymraeg i ddod yn rhugl yn y Gymraeg.

Mudiad Ysgolion Meithrin
Math
elusen
Math o fusnes
elusen
Sefydlwyd1971
Pobl allweddol
Gwenllian Lansdown (Prif Weithredwr)
Refeniw5,010,000 punt sterling (2017)
Nifer a gyflogir
257 (2017)
Gwefanhttps://www.meithrin.cymru/ Edit this on Wikidata

Er y cynhaliwyd dosbarthiadau meithrin Cymraeg gwirfoddol yn gyntaf yng Nghaerdydd ac yng Nghaerfyrddin yn 1943, ac yna yn y Barri yn 1951, prin fu'r ysgolion meithrin yng Nghymru cyn y 1970au. Bu i gyfrifiad 1971 fod yn sioc a sbardyn i sefydlu'r Mudiad. Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin mewn cyfarfod cyhoeddus ym 1971 mewn ymateb i Gyfrifiad y flwyddyn honno a ddangosai sefyllfa argyfyngus yr iaith Gymraeg. Dangosai’r Cyfrifiad hwnnw mai 9,745 o blant rhwng tair a phedair oed yn unig a oedd yn medru’r iaith, "nifer, fel y nododd Cennard Davies, y gellid ei gynnwys o fewn pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol". Amcangyfrifwyd fod oddeutu 65 o ysgolion meithrin cyfrwng Cymraeg yn bodoli ym mlwyddyn sefydlu’r Mudiad.[1]

Erbyn 1981 roedd 350 o gylchoedd meithrin a 40 o gylchoedd Ti a Fi yn bodoli ar hyd a lled Cymru. Fe gefnogwyd y twf hwn gyda ystadegau cyfrifiad 1981, lle nodwyd fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 3-4 oed wedi cynyddu o 11.3% i 13.3%. Erbyn 2001,roeddd ymron i fil o gylchoedd yn perthyn i'r Mudiad.[2] Cafwyd cynnydd graddol yn y canran yma ym mhob degawd ers hynny a braf nodi yng Nghyfrifiad 2011 roedd y ffigwr wedi cynyddu’n sylweddol yn y degawd olaf i 23.3% o blant 3-4 oed yn gallu siarad Cymraeg.

Parti Piws

golygu

Mae Parti Piws yn barti blynyddol sydd yn dathlu Pen-blwydd y cymeriadau Dewin a Doti.

Prosiectau eraill

golygu

Ymhlith gorchwylion y mudiad y mae:

  • Cylchoedd Ti a Fi
  • Cylchoedd Meithrin
  • Meithrinfeydd Dydd
  • Canolfananu integredig
  • Cam wrth Gam
  • Mabon a Mabli

Fe sefydlwyd Cam wrth Gam yn 2004 fel is-gwmni i'r Mudiad Meithrin.[3] Mae'n ganolfan hyfforddi staff cymwys i weithio gyda phlant ifanc, sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Integredig Mudiad Meithrin Aberystwyth. Cangen (neu is-gwmni) arall o'r Mudiad ydy Mabon a Mabli, sy'n gyfrifol am fasnachu nwyddau i'r cwsmeriaid.[4]

Cafywd cysylltiad clos rhwng y mudiad a'r cylchoedd 'Ti a Fi' a hefyd gyda'r gwasanaethau anghenion arbennig.

Cydweithio

golygu

Mae'r Mudiad Meithrin yn cydweithio gyda Cronfa Glyndŵr sydd hefyd yn cefnogi ceisiadau gan gylchoedd meithrin lleol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Pwyllgor Diwylliant – CC-15-01(p.4)" (PDF). Senedd Cymru. 24 Hydref 2001.
  2. "Pwyllgor Diwylliant – CC-15-01(p.4)" (PDF). Senedd Cymru. 24 Hydref 2001.
  3. Gwefan y Mudiad Meithrin; adalwyd 15/03/2012[dolen farw]
  4. "Gwefan Mabon a Mabli; adalwyd 15/03/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-07. Cyrchwyd 2013-11-12.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.