Dulliau a safonau'r ysgolhaig yw ysgolheictod, hynny yw dysg ac astudiaeth.[1] Yn ôl Thomas Rocklin, mae tair nodwedd i'r dull ysgolheigaidd. Yn gyntaf, ei sail yw'r gwaith a wnaed gan ysgolheigion cynt. Mae'n rhaid i ysgolhaig astudio'r llyfrau a'r erthyglau a ysgrifennwyd gan eraill yn y maes er mwyn cael crap ar hanes a damcaniaeth y pwnc dan sylw. Yn ail, mae ysgolheigion yn cyhoeddi eu gwaith felly gall arbenigwyr eraill ei ddadansoddi a'i feirniadu, er enghraifft trwy adolygiad gan gymheiriaid. Y drydedd nodwedd yw'r angen am gefnogaeth dros ddadleuon a safbwyntiau'r ysgolhaig, hynny yw tystiolaeth. Mae meini prawf tystiolaeth yn amrywio o un bwnc i'r llall: yn y gwyddorau naturiol ceir safonau gwrthrychol i dystiolaeth wyddonol megis data mesurol, ond mae'r gwyddorau cymdeithas yn fwy dibynnol ar ddata ansoddol.[2]

Ysgolhaig a'i Lyfrau gan Gerbrand van den Eeckhout (1671).

Y byd academaidd yw cartref proffesiynol yr ysgolhaig, ond mae nifer o ysgolheigion hefyd yn gweithio'n annibynnol.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  ysgolheictod. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  2. (Saesneg) What "Scholarship" Means. Adalwyd ar 21 Medi 2014.