Ysgrifau Dydd Mercher

Casgliad o ysgrifau Cymraeg ar bynciau llenyddol a diwylliannol gan Saunders Lewis yw Ysgrifau Dydd Mercher. Fe'i cyhoeddwyd gan Y Clwb Llyfrau Cymreig, wedi'i argraffu gan Gwasg Gomer, yn Awst 1945. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r ysgrifau yn Y Faner yn wreiddiol; gofynnodd E. Prosser Rhys i'r awdur ddethol yr ysgrifau ar gyfer y gyfrol. Bu farw Prosser Rhys cyn cyhoeddi'r gyfrol a chyflwynodd Saunders y llyfr i'w goffadwriaeth.[1]

Ysgrifau Dydd Mercher

Cynnwys golygu

Ceir 14 adolygiad ac ysgrif, sef:

  1. "Ffrainc cyn y Cwymp"
  2. "Lle pyncid cerddi Homer"
  3. "Gerallt Gymro"
  4. "Cyfnod y Tuduriaid"
  5. "Machiavelli"
  6. "Gruffydd Robert"
  7. "Charles Edwards"
  8. "Y Cymmrodorion"
  9. "Alfredo Panzini"
  10. "Emrys ap Iwan"
  11. "Eluned Morgan"
  12. "Cymry Patagonia"
  13. "Diwylliant yng Nghymru"
  14. "Edward Prosser Rhys"

Cyfeiriadau golygu

  1. Ysgrifau Dydd Mercher, Rhagair Saunders Lewis.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.