Saunders Lewis

gwleidydd, beirniad a dramodydd

Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref 18931 Medi 1985). Ar 5 Awst 1925 roedd yn un o brif sylfaenwyr Plaid Cymru. Ar 19 Ionawr 1937 dedfrydwyd ef i 9 mis o garchar am ei ran yn llosgi ysgol fomio yn Llŷn. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Saunders Lewis
GanwydJohn Saunders Lewis Edit this on Wikidata
15 Hydref 1893 Edit this on Wikidata
Wallasey Edit this on Wikidata
Bu farw1 Medi 1985 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylPenarth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd, ysgrifennwr, bardd, beirniad llenyddol, dramodydd, academydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaD. J. Williams, Lewis Valentine Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSiwan, Blodeuwedd, Brad, Buchedd Garmon, Gymerwch Chi Sigaret? Edit this on Wikidata
Arddulltheatr, barddoniaeth Edit this on Wikidata
PriodMargaret Gilcriest Edit this on Wikidata
PlantMair Saunders Lewis Edit this on Wikidata
PerthnasauSiwan Jones Edit this on Wikidata
Cofeb Saunders Lewis yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ôl cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe; dadorchuddiwyd 22 Medi 2016.

Bywyd cynnar ac addysg golygu

 
61 Falkland Road, Lerpwl: y tŷ lle'i ganed.

Ganwyd Saunders i deulu o Gymry oedd yn byw yn Wallasey, ger Lerpwl. Roedd yn ail o dri mab i'r gweinidog Methodist Calfinaidd, y Parch. Lodwig Lewis (1859–1933), oedd yn hanu o Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ei fam Mary Margaret (née Thomas, 1862–1900) yn Llundain ond roedd y teulu'n hanu o Sir Fôn.

Mynychodd ysgol y bechgyn yn Liscard, sef rhan o dref Wallasey. Roedd Saunders yn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl[1] pan gychwynnodd Y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofrestrodd fel gwirfoddolwr gyda Chatrawd y Brenin, Lerpwl ym Medi 1914 ac yn Ebrill 1915 ceisiodd am gomisiwn gyda Chyffinwyr De Cymru ac fe'i ddyrchafwyd i Is-Gapten yn Chwefror 1916. Gwasanaethodd yn Ffrainc lle fe'i anafwyd.[2] Ar ôl gadael y fyddin, dychwelodd i'r brifysgol i orffen ei radd yn Saesneg.[3]

Gyrfa golygu

 
Saunders Lewis yn 1916

Yn 1922, fe'i apwyntiwyd yn ddarlithiwr yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, cynhyrchodd rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol o feirniadaeth lenyddol: A School of Welsh Augustans (1924), Williams Pantycelyn (1927), a Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1932).[4]

Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd ac ymroddodd i ysgrifennu ar gyflwr gwleidyddol ac ieithyddol Cymru. Yn 1962 cyhoeddodd Tynged yr Iaith, sef darlith Radio BBC Cymru; y canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe enwebwyd Saunders Lewis am wobr lenyddol Nobel yn 1971.

Bywyd personol golygu

Priododd Margaret Lewis (née Gilcriest) (1891-1984) ar 31 Gorffennaf 1924 yn eglwys Gatholig Our Lady and St Michael yn Workington, Cumberland. Cafwyd iddynt un plentyn, Mair Gras Saunders (1926-2011).[2]

Yn fab i weinidog Methodistaidd, ymunodd â 'r Eglwys Babyddol yn 1932, yn bennaf oherwydd dylanwad ei wraig Margaret.[1] Yn 1936 llosgodd Saunders, ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine, adeiladau yr ysgol fomio ym Mhenyberth ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe.

Bu farw wedi salwch hir yn Ysbyty St Winifred, Caerdydd, ar 1 Medi 1985.[5]

Gwaith llenyddol golygu

Ei ddramau mwyaf yw Blodeuwedd a Siwan, sy'n ymwneud â'r gwrthdaro rhwng cariad a chwant. Yn ei nofelau Monica a Merch Gwern Hywel, yn ogystal ag yn Siwan, mae cytundeb priodasol yn holl bwysig ac yn hanfodol er lles cymdeithas. Roedd yn gredwr cryf yn y traddodiad Ewropeaidd, a gwelodd fod dylanwad Lloegr yn rhwystr i Gymru ddeall y traddodiad hwnnw. Dau ddylanwad mawr arno oedd Emrys ap Iwan a W.B. Yeats.

Gwobrau a theitlau golygu

Yn 2005 cafodd Saunders Lewis ei enwi fel y degfed Cymro pwysicaf erioed mewn pôl piniwn a wnaed gan y BBC.[6]

Ar Fedi 22, 2016 cafodd plac glas ei ddadorchuddio er cof amdano yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ôl cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe yn 1922.

Llyfryddiaeth golygu

 
Clawr yn cynnwys llun ohono.

Barddoniaeth golygu

Cyfrol o'i farddoniaeth ydy "Siwan a Cherddi Eraill", er fod y gerdd Siwan hefyd yn cael ei chyfri fel drama fydryddol.

Casglwyd ei gerddi ynghyd yn y gyfrol Cerddi Saunders Lewis (gol. R. Geraint Gruffydd).

Nofelau golygu

Dramâu golygu

Casglwyd ei holl ddramâu ynghyd yn y ddwy gyfrol, Dramâu Saunders Lewis, dan olygyddiaeth Ioan Williams.

Beirniadaeth Lenyddol golygu

Ysgrifau Gwleidyddol golygu

Astudiaethau a llyfrau eraill golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 [1] Archifwyd 2012-05-23 yn y Peiriant Wayback. Archifau Cymru; adalwyd 03/11/2012
  2. 2.0 2.1  LEWIS, JOHN SAUNDERS (1893-1985), gwleidydd, beirniad a dramodydd. Bywgraffiadur (16 Medi 2014). Adalwyd ar 13 Mawrth 2019.
  3. "Saunders Lewis". BBC. 2011. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2011.
  4. Kendall, Tim (22 Chwefror 2007). The Oxford Handbook of British and Irish War Poetry. OUP Oxford. t. 342. ISBN 978-0-19-928266-1.
  5. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/4333779.stm
  6. Bevan is ultimate Welsh hero adalwyd 12-04-07

Dolennau allanol golygu

  • [2] Plac glas i gofio Saunders Lewis - cyfweliad gyda'r Athro Prys Morgan (Golwg360)
  • [3] "Camgymeriad" cysylltu Saunders ag Abertawe am resymau negyddol - cyfweliad gyda Robert Rhys (Golwg360)
  • Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016) > ar wefan Gwales

Gellir gwrando ar ddarlith gan yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: breuddwyd cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, yma: http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.