Ysgrifen gynffurf
System ysgrifennu sy'n tarddu o Fesopotamia'r henfyd yw ysgrifen gynffurf.[1][2] Cafodd symbolau ar ffurf cŷn eu hysgythru ar lechi clai gan ddefnyddio ysbrifbin trionglog.

Ymddangosodd ysgrifen ym Mesopotamia tua 3500 CC. Yn wreiddiol, arwyddion rhif a phictogramau oedd symbolau cynffurf, er defnydd gweinyddiaeth ariannol. Yn hwyrach datblygodd yr arwyddion i ddynodi synau, megis gwyddor lythrennau. System sillafol a logograffig yw'r ysgrifen gynffurf aeddfed: defnyddir y mwyafrif o arwyddion am air, ambell arwydd am sill, cyflenwadau seinegol i ddynodi ynganiad, a phenderfynyddion i ddynodi ystyr geiriau. Mae tua 500 o wahanol lythrennau. Daeth Aramaeg yn brif iaith lafar Mesopotamia tua diwedd y milflwyddiant cyntaf CC. Bu farw'r ysgrifen gynffurf tua'r 2g OC.
Defnyddid y system gynffurf ym Mesopotamia i ysgrifennu'r Swmereg, ac yn hwyrach Acadeg (a rennir yn ddwy dafodiaith: Asyrieg yn y gogledd a Babiloneg yn y de). Yn hwyrach cafodd ei fabwysiadu gan ddiwylliannau eraill i ysgrifennu sawl iaith yn y Dwyrain Canol, gan gynnwys Hetheg, Elameg, Hen Berseg, ac Wrarteg.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Geiriadur yr Academi, [cuneiform].
- ↑ cynffurf. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2016.