Ystumcegid

ffermdy rhestredig Gradd II yn Nolbenmaen

Plasdy bychan yn Eifionydd, Gwynedd yw Ystumcegid, a fu'n amlwg ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y fro. Mae'n ffermdy heddiw.

Ystumcegid
Mathffermdy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstumcegid Estate Edit this on Wikidata
LleoliadDolbenmaen Edit this on Wikidata
SirDolbenmaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr104.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.957822°N 4.238669°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Saif ar fryncyn ger Dolbenmaen. Yn yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid bu aelwyd Ystumcegid yn gyrchfan i'r beirdd. Ymhlith y beirdd a ganodd i'r teulu yr oedd Llywelyn ab y Moel. Dyma ei ddisgrifiad o'r plasdy ar ddechrau'r 15g:

Ystum wen, blas dinam waith,
Cegid, nid beudy coegwaith.
Neuadd fawr newydd furwen
Uwch ael ffordd, uchel ei phen.[1]
Cromlech Ystumcegid (yn seiliedig ar ddarlun gan Edward Pugh o Ruthin)
Cromlech Ystumcegid (yn seiliedig ar ddarlun gan Edward Pugh o Ruthin) 

Cyfeiriadau golygu

  1. Llywelyn ab y Moel. Dyfynnir gan Enid Rowlands yn Tai Uchelwyr y Beirdd 1350–1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986), tud. 20.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato