Cerdd Saesneg Canol yw Ywain and Gawain sy'n dyddio o gyfnod cynnar y 14g. Rhamant yng Nghylch Arthur ydyw a ysgrifennwyd yng ngogledd Lloegr. Mae ganddi 4,032 o linellau mewn cwpledi byrion.

Mae'n goroesi mewn un lawysgrif yn unig. Er ei detl, mae'r gwaith yn ymwneud â'r cymeriad Ywain yn bennaf. Cyfieithiad ydyw, gyda newidiadau, o'r gerdd Hen Ffrangeg Yvain gan Chrétien de Troyes, a gyfansoddwyd rhyw 150 mlynedd ynghynt. Mae'r gerdd Saesneg yn cynnwys elfennau o'r stori sy'n debycach i fersiynau eraill megis y gwaith Cymraeg Owein.[1]

Mae Ywain yn lladd marchog sy'n rheoli'r tywydd trwy hud, ac yn priodi ei weddw Alundyne, gyda chymorth ei morwyn hi, Lunet. Mae Gawain yn dwyn perswâd arno i fynd ar daith gyda llew, yn farchogion crwydr. Maent yn cael sawl antur cyn iddo ailgymod â'i wraig, unwaith eto gyda chymorth Lunet.

Cyfeiriadau golygu

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 1107.