Chrétien de Troyes
Roedd Chrétien de Troyes (tua 1135 – tua 1183) yn llenor o Ffrainc o'r Canol Oesoedd, a ystyrir fel y cyntaf o chwedleuwyr mawr Ffrainc.
Chrétien de Troyes | |
---|---|
Ganwyd | c. 1130s Troyes |
Bu farw | c. 1180s Fflandrys |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd |
Adnabyddus am | Erec and Enide, Yvain, the Knight of the Lion, Cligès, Perceval, the Story of the Grail, Lancelot, the Knight of the Cart |
Bywgraffiad
golyguYchydig a wyddys am ei fywyd. Credir iddo gael ei eni yn Troyes o deulu dosbarth canol ac iddo gael addysg dda; gwyddir ei fod yn medru Hen Roeg. Mae'n debyg iddo fod yn llys Marie de Champagne a Philippe d'Alsace, comte de Flandres. I Philippe y cyflwynodd Perceval ou le Conte du Graal.
Mae'n debyg iddo gael ei ddeunydd o'r traddodiad celtaidd. Mae Érec et Énide, Yvain ou le Chevalier au Lion a Perceval ou le Conte du Graal yn cyfateb i'r tair stori yn Y Tair Rhamant yn Gymraeg: Geraint ac Enid, Iarlles y Ffynnon a Peredur fab Efrawg. Nid oes sicrwydd a yw'r storïau Cymraeg yn addasiad o weithiau Chrétien ynteu yn weithiau annibynnol yn defnyddio yr un deunydd.
Gweithiau
golygu- Tristan et Iseult (ar goll)
- Érec et Énide, tua 1170
- Cligès, tua 1176
- Lancelot ou le Chevalier de la charrette, tua 1178-1181 (anorffenedig)
- Yvain ou le Chevalier au lion, tua 1178-1181
- Perceval ou le Roman du Graal, tua 1182-1190 (anorffenedig)
Llyfryddiaeth
golygu- Anne Berthelot, Le roman courtois: une introduction (Paris, 1998)
- Philippe Walter, Chrétien de Troyes (Paris, 1997)