Llenor Tsieineaidd sy'n adnabyddus am ei straeon byrion realaidd oedd Zhang Tianyi (ganwyd Zhang Yuanding; 26 Medi 190628 Ebrill 1985).[1]

Zhang Tianyi
Ganwyd26 Medi 1906 Edit this on Wikidata
Nanjing Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
Beijing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, awdur plant, newyddiadurwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddNational People's Congress deputy Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Nanjing, Jiangsu, a mynychodd ysgol uwchradd yn Hangzhou. Cychwynnodd ei yrfa yn ysgrifennu straeon ditectif. Symudodd i Beijing ym 1925 a dechreuodd ysgrifennu straeon dychanol. Cyhoeddodd sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys Xiao Bide (1931), Tuanyuan (1935), a Suxie sanpian (1943), a nofelau dychanol gan gynnwys Guitu riji (1931) a Yanglingbang (1936).

Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith am gyfnod yn y 1940au gan iddo ddioddef y diciâu. Wedi iddo wella, cafodd gwaith swyddogol gan y llywodraeth gomiwnyddol yn ysgrifennu straeon a dramâu i blant.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Zhang Tianyi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Mai 2018.