Zoolander

ffilm gomedi gan Ben Stiller a gyhoeddwyd yn 2001

Mae Zoolander yn ffilm gomedi ddychanol 2001 Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ben Stiller ac sy'n serennu Stiller, Owen Wilson a Will Ferrell. Cynhwysa'r ffim elfennau o bâr o ffilmiau byr a gyfarwyddwyd gan Russell Bates ac ysgrifennwyd gan Drake Sather a Stiller ar gyfer rhaglenni teledu arbennig y Gwobrau Ffasiwn VH1 yn 1996 ac 1997. Cynhwysa'r ffilmiau byr a'r ffilm ei hun model gwrywaidd twp o'r enw Derek Zoolander, a chwaraeodd gan Stiller. Dilyna'r ffilm Zoolander wrth iddo gael ei ddarbwyllo i lofruddio Prif Weinidog Maleisia gan weithredwyr llygredig. Mae'r enw "Derek Zoolander" yn gyfansoddair cywasgedig o enwau dau fodel gwrywaidd a weithiodd i Calvin Klein: yr Iseldirwr Mark Vanderloo a'r Americanwr Johnny Zander.[2][3]

Zoolander

Poster sinema'r ffilm
Cyfarwyddwr Ben Stiller
Cynhyrchydd Scott Rudin
Ben Stiller
Stuart Cornfeld
Ysgrifennwr Sgript gan:
Drake Sather
Ben Stiller
John Hamburg
Stori gan:
Drake Sather
Ben Stiller
Serennu Ben Stiller
Owen Wilson
Will Ferrell
Christine Taylor
Milla Jovovich
Jerry Stiller
Jon Voight
Cerddoriaeth David Arnold
Sinematograffeg Barry Peterson
Golygydd Greg Hayden
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Village Roadshow Pictures
VH1 Films
Red Hour Productions
Dyddiad rhyddhau 28 Medi, 2001
Dosbarthwyr
Paramount Pictures
Amser rhedeg 89 munud[1]
Gwlad Yr Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Derbyniodd y ffilm adolygiadau positif gan y beirniaid ac roedd yn llwyddiant yn y sinemâu. Rhyddhawyd dilyniant, Zoolander 2, ar 12 Chwefror, 2016.[4]

  • Ben Stiller fel Derek Zoolander
  • Godfrey fel Janitor Derek
  • Owen Wilson as Hansel McDonald
  • Taj Crown fel Janitor Hansel
  • Christine Taylor fel Matilda Jeffries
  • Will Ferrell fel Jacobim Mugatu
  • Milla Jovovich fel Katinka Ingabogovinanana
  • Jerry Stiller fel Maury Ballstein
  • David Duchovny fel J.P. Prewett
  • Jon Voight as Larry Zoolander
  • Vince Vaughn fel Luke Zoolander
  • Judah Friedlander Scrappy Zoolander
  • Nathan Lee Graham fel Todd
  • Alexander Skarsgård fel Meekus
  • Justin Theroux fel y DJ drwg
  • Andy Dick fel Olga y tylinwr
  • Andrew Wilson fel cefnogwr Hansel
  • John Vargas fel dylunydd Eidalaidd
  • Jennifer Coolidge fel dylunydd Americanaidd
  • Tony Kanal fel dylunydd Ffrengig
  • Nora Dunn fel dylunydd Prydeinig
  • James Marsden fel John Wilkes Booth
  • Patton Oswalt fel ffotograffydd mwnci
  • Alexandre Manning fel Brint (credydwyd fel Alexander Manning)
  • Asio Highsmith fel Rufus
  • Woodrow W. Asai fel Prif Weinidog Maleisia
  • Mason Webb fel Derek Zoolander Jr.

Cynhwysa'r ffilm ymddangosiadau cameo gan Donald a Melania Trump, Victoria Beckham, Emma Bunton, Christian Slater, Tom Ford, Cuba Gooding, Jr., Steve Kmetko, Tommy Hilfiger, Natalie Portman, Anne Meara, Fabio Lanzoni, Lenny Kravitz, Maggie Rizer, Gwen Stefani, Gavin Rossdale, Heidi Klum, Mark Ronson, Paris Hilton, David Bowie, Tyson Beckford (yn siarad), Fred Durst, Lance Bass, Lil' Kim, Garry Shandling, Stephen Dorff, Sandra Bernhard, Claudia Schiffer, Veronica Webb, Lukas Haas, Carmen Kass, Frankie Rayder, Karl Lagerfeld, Winona Ryder (yn ddi-gredyd), Billy Zane, Irina Pantaeva, a Donatella Versace.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "ZOOLANDER (12)". British Board of Film Classification. October 5, 2001. Cyrchwyd December 27, 2014.
  2. "Meet the model who inspired 'Zoolander'" by Bronte Lord, Logan Whiteside, & Alison Kosik CNNMoney
  3. "The male model: How did we get to Zoolander?"
  4. "'Zoolander 2′ Coming February 2016". SlashFilm. Cyrchwyd 10 March 2015.