Anne Meara

actores a aned yn 1929

Actores a digrifwr Americanaidd oedd Anne Meara (20 Medi 192923 Mai 2015). Bu hi a'i gŵr Jerry Stiller yn ddeuawd comedi amlwg yn UDA'r 1960au yn ymddangos fel Stiller and Meara. Roedd hi'n fam i'r actor a digrifwr Ben Stiller a'r actores Amy Stiller.

Anne Meara
GanwydAnne Therese Meara Edit this on Wikidata
20 Medi 1929 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 2015 Edit this on Wikidata
Upper West Side Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • HB Studio Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe King of Queens Edit this on Wikidata
Taldra168 centimetr Edit this on Wikidata
PriodJerry Stiller Edit this on Wikidata
PlantAmy Stiller, Ben Stiller Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Writers Guild of America Award for Best Original Screenplay, Outer Critics Circle Award Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu

Cafodd Meara ei geni yn Brooklyn, Efrog Newydd yn ferch i rieni o dras Wyddelig sef Mary (née Dempsey) ac Edward Joseph Meara, a oedd yn gyfreithiwr. Magwyd Meara yn y ffydd Gatholig Rufeinig cyn cael tröedigaeth i Iddewiaeth Ddiwygiedig (ffydd ei gŵr) chwe blynedd ar ôl priodi Jerry Stiller. Roedd Meara wedi bod yn briod â Stiller ers 1954.[1][2][3]

Roedd Meara wedi ysgrifennu am farwolaeth ei mam a phrofiadau ei phlentyndod mewn ysgol breswyl Catholig[4].

Roedd Meara a Stiller i'll ddau yn aelodau o'r cwmni byrfyfyr The Compass Players (a ddaeth yn ddiweddarach yn The Second City), cyn creu eu deuawd comedi Stiller a Meara a oedd yn selio llawer o'u hact ar dröydd trwstan eu perthynas go iawn. Bu'r ddeuawd yn ymddangos yn rheolaidd ar The Ed Sullivan Show a rhaglenni teledu eraill.

Yn y 1970au, bu Meara a Stiller yn ymddangos mewn nifer o hysbysebion ar gyfer y gwin Blue Nun. Bu Meara'n actio rhan Stiwardes Awyren yn y comedi sefyllfa Rhoda. Chwaraeodd rôl fechan gyferbyn â Laurence Olivier yn Ffilm The Boys from Brazil (1978).

Bu hi'n chware ran Mary Brady yn y rhaglen Sex and the City a Veronica yn The King of Queens.

Ffilmiau

golygu

Gwaith teledu

golygu

Theatr

golygu
  • I'd Rather Eat Pants, National Public Radio, 2002
  • Dining Alone (Hysbyseb Blue Nun gyda Jerry Stiller, enillydd Gwobr Clio, 1975)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bloom, Nate (March 17, 2009). Interfaith Family.com: "A Pint of Guinness, A Cup of Manischevitz: Some Irish/Jewish Connections".
  2. Anne Meara Biography (1929-)
  3. "E.J. Meara, Creator Of Comedy Skits, 73". The New York Times. December 16, 1966.
  4. Meara, Anne (June 8, 2009). "Old Nuns".