Zugspitze
Y Zugspitze yw mynydd uchaf yr Almaen. Mae'n 2962 medr o uchder. Saif yn y Wettersteingebergte, ar y ffin rhwng yr Almaen ac Awstria. Mae'r rhan Almaenig o'r mynydd yn ne Bafaria.
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Garmisch-Partenkirchen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 2,962.06 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 47.421217°N 10.986314°E ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 1,746 metr ![]() |
Rhiant gopa | Finsteraarhorn ![]() |
Cadwyn fynydd | Wetterstein ![]() |
![]() | |
Deunydd | craig waddodol ![]() |
Y trefi agosaf yw Grainau, Garmisch-Partenkirchen, ar ochr yr Almaen ac Ehrwald ar ochr Awstria. Mae rheilffordd yn arwain i'r copa o Garmisch-Partenkirchen, ac mae ceir cabl i'r copa yn cychwyn o'r ochr Awstraidd a'r ochr Almaenig. Ceir bwyty ac amgueddfa fechan ar y copa. Ar lethrau'r mynydd, mae tair allan o'r pum rhewlif yn yr Almaen.