Abercynon

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Abercynon.[1][2] Fe'i lleolir yng Nghwm Cynon ar gymer afonydd Cynon a Thaf. Saif tua 13 milltir (21 km) i'r gogledd o Gaerdydd.

Abercynon
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,390 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd915.78 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6445°N 3.3267°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000678 Edit this on Wikidata
Cod postCF45 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4]

Ceir dwy orsaf drenau yno, un ar y rheilffordd o Gaerdydd i Aberdâr, a'r llall ar reilffordd Caerdydd-Merthyr Tudful. Abercynon oedd pen y daith reilffordd stêm gyntaf yn hanes y byd pan yrrodd Richard Trevithick injan stêm, ar 21 Chwefror 1804, a oedd yn tynnu haearn a theithwyr, o waith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful i fasn Camlas Morgannwg yn Abercynon. Ceir cofebion i'r daith hanesyddol ym Mhenydarren ac yn Abercynon.

Mae Abercynon yn gartref i Westy'r Thorn, a ddefnyddiwyd gan Tom Jones i ymarfer ar gyfer ei berfformiadau.

Hanes golygu

Datblygodd y pentref fel canolfan cludiant ar gyffordd ar Gamlas Morgannwg ac ar fan cyffwrdd dwy gangen rheilffordd Cwm Taf. "Navigation" oedd enw'r pentref am gyfnod. Suddwyd pwll glo yno ym 1889 a ymunwyd ag Ynysybwl ac a adnabuwyd hyd ei gau yn yr wythdegau fel Glofa Abercynon Lady Windsor.

Ganwyd y paffiwr Dai Dower yno. Mae Plasty Llancaiach Fawr heb fod ymhell o'r pentref.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abercynon (pob oed) (6,390)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abercynon) (552)
  
9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abercynon) (5812)
  
91%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Abercynon) (1,047)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 1 Ebrill 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu