Alexandria Ocasio-Cortez

Mae Alexandria Ocasio-Cortez (ganwyd 13 Hydref 1989) yn wleidydd ac ymgyrchydd Americanaidd.[1][2] Mae hi hefyd yn adnabyddus dan yr enw AOC.[3][4]

Alexandria Ocasio-Cortez
Alexandria Ocasio-Cortez standing
Ganwyd (1989-10-13) 13 Hydref 1989 (34 oed)
Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America
DinasyddiaethBaner UDA UDA
AddysgPrifysgol Boston (Baglor yn y Celfyddydau)
RhagflaenyddJoe Crowley
Plaid WleidyddolPlaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)
GwefanGwefan ar house.gov

Mae hi'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, ac wedi cynrychioli ardal gyngresol 14eg dinas Efrog Newydd ers 3 Ionawr 2019. Mae'r ardal yn cynnwys y darn dwyreiniol o'r Bronx a darnau o Queens yn ninas Efrog Newydd.

Mae hi'n aelod o fudiad Sosialwyr Democrataidd America.[5][6]

Hi yw'r ddynes ifancaf i fod yn aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.