Alun Tudor Lewis

ysgrifennwr (1905-1986)

Awdur straeon byrion Cymraeg oedd Alun Tudor Lewis (19051986) a gyhoeddai dan yr enw Alun T. Lewis. Roedd yn frodor o Llandudno, Sir Conwy.[1]

Alun Tudor Lewis
Ganwyd1905 Edit this on Wikidata
Bu farw1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Graddiodd mewn mathemateg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a chafodd yrfa fel athro yn y pwnc hwnnw yn Llanrwst am 30 mlynedd. Roedd yn awdur pum cyfrol o straeon byrion, yn cynnwys Blwyddyn o Garchar (1962), sy'n amlygu ei grefft "ddisgybledig a chymesur" yng nghyfrwng y stori fer.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Corlan Twsog (1948)
  • Y Piser Trwm (1957)
  • Blwyddyn o Garchar (1962)
  • Y Dull Deg (1973)
  • Cesig Eira (1979)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.