Gwleidydd o'r Alban yw Angela Crawley (ganwyd 3 Mehefin 1987) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Lanark a Dwyrain Hamilton; mae'r etholaeth yn siroedd Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark. Mae hi'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Angela Crawley AS
Angela Crawley


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Jimmy Hood

Geni (1987-06-03) 3 Mehefin 1987 (36 oed)
Hamilton, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Lanark a Dwyrain Hamilton
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Stirling
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i ganed yn Hamilton yn yr Alban. Astudiodd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Stirling lle derbyniodd Radd BA. Wedi hynny, gweithiodd yn Brighton i'r cwmni Educational Travel Group. Ar hyn o bryd mae'n astudio ar gyfer Gradd Doethuriaeth LLB ym Mhrifysgol Glasgow.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Angela Crawley 26976 o bleidleisiau, sef 48.8% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +27.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 10100 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu