Angharad Pearce Jones

artist Cymreig

Artist yw Angharad Pearce Jones (ganwyd Medi 1969), sy'n gweithio'n bennaf ar osodweithiau a cherfluniau. Mae hi'n byw yn y Garnant, yng Ngorllewin Cymru[1]. Gadawodd Goleg Menai, Bangor i fynd i astudio dylunio 3D ym Mhrifysgol Brighton ym 1988. Dychwelodd i fyd addysg yn 1997 i astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yma y dechreuodd hi ar ei gwaith o greu gosodweithoedd mawr. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni HAEARN-DESIGNER BLACKSMITHS Ltd.[2]

Angharad Pearce Jones
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Gosodwaith gan Angharad Pearce Jones, Canolfan Cywain, y Bala.

Angharad oedd dylunydd a gwneuthurwr Coron yr Eisteddfod yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000.

Cyfeiriadau golygu

  1. W. Jones, Peter; Hitchman, Isabel (2017). Ôl-ryfel i Ôl-fodern: Bywgraffiadur Artistiaid Cymru: Bywgraffiad Artistiaid Cymru. Gwasg Gomer. t. 435.
  2. "Angharad Pearce Jones". 28/04/2018. Check date values in: |date= (help)