Angharad ferch Meurig

(0801- )

Uchelwraig Gymraeg o'r 9g yw Angharad ferch Meurig. Roedd hi'n wraig i Rhodri Mawr, Gwynedd, ac yn fam i Anarawd, Cadell ap Rhodri, a Merfyn.

Bywyd golygu

Roedd Angharad yn ferch i Meurig, a oedd yn ôl tystiolaeth yn Frenin Seisyllwg in ne-orllewin Cymru. Priododd Rhodri Mawr o Wynedd, a oedd a llawer o bwer yng Nghymru. Olynodd ei brawd Gwgon eu tad i orsedd Seisyllwg, ond boddodd heb etifedd yn 872. O ganlyniad, daeth Angharad a Rhodri i ofalu am y deyrnas. Nid oedd gan Rhodri le i gymryd y deyrnas ei hun, ond roedd ei gysylltiad teuluol yn caniatàu i'w ail fab, Cadell, ddod yn frenin.[1] Daeth eu mab cyntaf, Anarawd, i olynu Rhodri yng Ngwynedd. Daeth eu trydydd mab, Merfyn, yn ôl y sôn yn Frenin Powys.

Cyfeiriadau golygu

  1. Lloyd, John Edward (1912). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest. Longmans, Green, and Co. t. 325. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2020.