Bardd Llydaweg oedd Anjela Duval (3 Ebrill 1905 - 7 Tachwedd 1981). Mae ei cherddi yn datgelu cariad pendant tuag at natur, dicter yn erbyn dirywiad yr iaith Llydaweg, a'i synnwyr digrifwch.

Anjela Duval
GanwydMarie Angèle Duval Edit this on Wikidata
3 Ebrill 1905 Edit this on Wikidata
Ar C'houerc'had Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1981 Edit this on Wikidata
Lannuon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, gwleidydd lleol Edit this on Wikidata

Fe’i ganwyd yn Ar C’houerc’had (Vieux-Marché), ger Plouared Aodoù-an-Arvor a bu farw yn Lannuon, Aodoù-an-Arvor.

Roedd hi’n unig ferch i deulu oedd yn ffermio (bu farw y lleill yn ifanc), a chymerodd y fferm drosodd wedi farw ei rhieni (ei thad 1941, ei mam 1951). Collodd ei chwaer hŷn Maia (a fu farw yn ddeg oed, ond a erys mewn rhai cerddi) a’i brawd Charles wedi marw cyn iddi gael ei geni. Am ddegawdau oedd hi ar ei phen ei hun, ac wedi aros yn sengl am fod “an hini a garen. Ne gare ket pezh a garan” (Yr un a garaf. Nid yw e’n caru y pethau dw i’n ei charu) - am fod ei dyweddi, morwr a oedd yn canlyn a hi 1924-1926 wedi gofyn iddi adael Llydaw.

Roedd hi’n ffermwraig tlawd a syml oedd yn ysgrifennu ei cherddi ar ôl diwrnod caled o waith yn y caeau mewn llyfr nodiadau ysgol yn ei thyddyn bach yn nhreflan Traoñ an Dour. Roedd hi wedi dysgu darllen ei chatecism Llydaweg ers pan oedd hi'n ifanc iawn, ond ni ddechreuodd ysgrifennu tan y 1960au. Aeth i ysgol o wyth i ddeuddeg oed dan ofal lleianod ond, ar ôl iddi dioddef o glefyd yr esgyrn trodd at gyrsiau gohebiaeth i ferched ifanc o ardaloedd gwledig. Felly ymdriniodd â'r iaith Ffrangeg yn eithaf da. Daeth dan dylanwad cylchgronau Llydaweg fel Ar Bed Keltiek, cylchgrawn dan olygyddiaeth Roparz Hemon, un o brif lenorion y Llydaweg. Honnir hefyd bod y Tad Marsel Klerg, cyfarwyddwr y cylchgrawn Catholig Barr-heol, wedi'i hysgogi i gyhoeddi ei cherddi. Ysgrifennodd Gilles Servat, canwr Llydewig enwog a ddysgodd Llydaweg ganddi hi, gân amdani o'r enw Traoñ an Dour. Dywed ef ei fod yn deall Llydaweg ond heb ei siarad, atebodd Anjela Duval: "fel fy nghi ...". Daeth hi yn amlwg yn y byd Ffrengig ar sioe teledu André Voisin Les Conteurs yn 1971. Cyhoeddwyd ei gweithiau cyflawn ,Oberenn glok yn 2000 (bu farw y 1981). Gwerthwyd dros 1000 o gopïau ac fe'u hailgyhoeddwyd yn 2005 ar achlysur canmlwyddiant ei eni. Yn 2011 mae’r gymdeithas Anjela-Duval wedi casglu arian i godi cerflun gwenithfaen ohoni yn y Place du Vieux-Marché .

Gwaith yn Llydaweg golygu

  • ‘’Kan an douar’’, 1973 (Cân y Ddaear), Al Liamm, Brest
  • ‘’Traoñ an Dour’’ 1982 (casgliad ar ôl marwolaeth), Al Liamm,
  • ‘’Tad-kozh Roperz-Huon 1822-1902’’ (Tadcu Roperz Huon), 1982, 1992 Hor Yezh,
  • ‘’Me, Anjela’’, 1986, Hor Yezh.
  • ‘’Rouzig ar gwiñver’’ (Rousig y Wiwer)1989 An Here
  • ‘’Stourm a ran war bep tachenn’’, (Ymgyrchaf ar bob maes) 1998 Mignoned Anjela
  • ‘’Oberenn Glok’’, 2000, 2005
  • Ei llyfrau nodiadau llawysgrifen, 1920-1968. Llyfrgell ddigidol Prifysgol Roazhon 2

Gwaith mewn cyfieithiad golygu

  • ‘’Du a Gwyn. Gwen ha Du’’ cerddi dwyieithog Dewi Morris Jones / Mikael Madeg Y Lolfa 1982 - Divroan/Alltudio; - Bac’han/Carcharu; - Dibabet ‘m eus/ Mi ddewisais i
  • Gwefan deiriethog am Anjela Duval Ffrangeg, Saesneg a Llydaweg https://www.anjela.org/oberenn/?lang=en
  • Ceir fersiynau cymraeg o rhai o’i cherddi yma https://www.anjela.org/oberenn/kembraeg/?lang=bz
  • ‘’A Modern Breton Political Poet, Anjela Duval A Biography and an Anthology’’, gan Lenora Timm, Studies in French Literature Number 5, Edwin Mellen Press, , 1990.
  • ‘’Au fil des saisons - Gant ar mareoù-bloaz’’, (bilingue, version française de Pierre Jakez Hélias), Coop Breizh, 1995
  • ‘’Quatre Poires’’, (bilingue, version française de Paol Keineg), éditions Mignoned Anjela, 2005.

Ceir rhai o'i gerddi enwocaf eu canu gan artistiaid Llydewig gyfoes fel:

  • ‘’An alc'hwez aour’’ gan Gwennyn yn ei albwm En tu all
  • ‘’Karantez vro’’ (Cariad at fro) wedi ei osod i gerddoriaeth gan Véronique Autret a gan Nolwenn Leroy yn ei halbwm dwyieithog Bretonne

Mae nifer o'i gerddi yn albwm Yann Thiersen, EUSA, a ryddhawyd yn 2016.

Ffynonellau a Llyfryddiaeth golygu