Annibyniaeth yr Alban

Annibyniaeth yr Alban (Gaeleg yr Alban: Neo-eisimeileachd na h-Alba) yw'r cysyniad o'r Alban fel gwlad sofran.

Crynhoad golygu

Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan ddeddf uno 1707 pan ddaeth yr Alban yn rhan o'r Deyrnas Unedig (DU).[1] Tua diwedd yr 20g a dechrau'r 21g, datblygodd fudiad dros annibyniaeth i'r Alban. Arweiniodd hyn at refferendwm aflwyddiannus 2014 lle pleidleisiodd 45% o Albanwyr o blaid annibyniaeth. Yn y refferendwm, gwrthododd 55% o bleidleiswyr annibyniaeth.[2]

Ers hynny mae Plaid Genedlaethol yr Alban yn parhau i lywodraethu ac arddel annibyniaeth. Er hyn, gwrthododd prif weinidog y Deyrnas Unedig y pryd[angen ffynhonnell] gais Nicola Sturgeon am bwerau i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth. Mae prif weinidog presennol yr Alban, Humza Yousaf, yn parhau i anelu tuag at annibyniaeth.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Union with England Act 1707". British Government. Cyrchwyd 12 August 2021.
  2. "Scottish independence referendum". www.gov.uk. UK Government. Cyrchwyd 29 Mai 2014.