Ardal Torridge

ardal an-fetropolitan yn Nyfnaint

Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Ardal Torridge (Saesneg: Torridge District).

Ardal Torridge
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDyfnaint
PrifddinasBideford Edit this on Wikidata
Poblogaeth68,143 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDyfnaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd983.8917 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.893°N 4.265°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000046 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Torridge District Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 984 km², gyda 68,267 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag Ardal Gogledd Dyfnaint i'r gogledd-ddwyrain, Ardal Canol Dyfnaint i'r dwyrain, Bwrdeistref Gorllewin Dyfnaint i'r de, yn ogystal â Chernyw i'r gorllewin a Môr Hafren i'r gogledd.

Ardal Torridge yn Nyfnaint

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Rhennir yr ardal yn 63 o blwyfi sifil, gydag un ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys Ynys Wair ym Môr Hafren. Mae ei phencadlys yn nhref Bideford. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Great Torrington, Hartland, Holsworthy a Northam.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 1 Tachwedd 2020