Dyfnaint

swydd seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr

Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Cernyweg: Dewnans; Llydaweg: Devnent; Saesneg: Devon). Caerwysg yw'r ddinas sirol. Mae'r sir yn ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a'r Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.

Dyfnaint
ArwyddairAuxilio Divino Edit this on Wikidata
Mathsiroedd seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDe-orllewin Lloegr, Lloegr
PrifddinasCaerwysg Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,209,773 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd6,706.9855 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwlad yr Haf, Cernyw, Dorset Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.7°N 3.8°W Edit this on Wikidata
GB-DEV Edit this on Wikidata
Map
Baner Dyfnaint
Lleoliad Dyfnaint yn Lloegr

Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfodir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.

Mae baner Dyfnaint yn dyddio o 2003. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.

Ceir sawl enw lle o darddiad Brythonig yn Nyfnaint (er enghraifft combe (cwm), tor (twr), pen (pen)) ond mae nhw'n fwy cyffredin ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Y dosbarth lluosocaf o'r enwau lleoedd hyn yw enwau'r Celtiaid ar afonydd.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Ardaloedd awdurdod lleol golygu

Rhennir y sir yn wyth ardal an-fetropolitan a dau awdurdod unedol:

 
  1. Ardal Gogledd Dyfnaint
  2. Ardal Torridge
  3. Ardal Canol Dyfnaint
  4. Ardal Dwyrain Dyfnaint
  5. Dinas Caerwysg
  6. Bwrdeistref Gorllewin Dyfnaint
  7. Ardal Teignbridge
  8. Dinas Plymouth – awdurdod unedol
  9. Ardal South Hams
  10. Bwrdeistref Torbay – awdurdod unedol

Etholaethau seneddol golygu

Rhennir y sir yn 12 etholaeth seneddol yn San Steffan:

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddyfnaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.