Argyfwng Cenia (2007–2008)

Dechreuodd terfysgoedd a gwrthdrawiadau arfog yng Nghenia ar ôl i Mwai Kibaki gael ei enwi fel arlywydd ailetholedig y wlad yn dilyn etholiadau arlywyddol ar 27 Rhagfyr, 2007. Bu cefnogwyr gwrthwynebydd Kibaki – Raila Odinga – yn llosgi tai a siopau mewn rhannau o'r wlad; credant bod yr etholiad wedi ei rigio o blaid Kibaki.[4] Mae'r trais wedi'i seilio ar dadogaethau llwythol; targedir llwyth y Kikuyu, grŵp ethnig Kibaki, yn y trais tra bo llwyth y Luo, sy'n cefnogi Odinga, wedi bod yn ymosodwyr yn bennaf.[5]

Terfysgoedd Cenia
Dyddiad 27 Rhagfyr, 200713 Ebrill 2008[1]
Lleoliad Cenia
Canlyniad Ffurfio llywodraeth glymblaid led-arlywyddol
Anafusion a cholledion
600–1500[1][2][3] wedi'u lladd
250,000[2] wedi'u dadleoli

Ar 28 Chwefror 2008 arwyddodd Kibaki ac Odinga cytundeb o'r enw'r Ddeddf Cydsyniad a Chymod Genedlaethol, sy'n sefydlu swyddfa prif weinidog ac yn creu llywodraeth glymblaid.[6] Ar 13 Ebrill datganwyd y cabinet newydd.[1]

Effeithiau economaidd golygu

Roedd effeithiau negyddol yr argyfwng ar economi Cenia yn sylweddol. Erbyn Chwefror 2008 collodd tua 20 000 o weithwyr yn y diwydiant twristiaeth a thua'r un nifer yn y sector cludiant eu swyddi.[7]

Ymatebion golygu

Ymatebion yng Nghenia golygu

Ymatebion rhyngwladol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Deal to end Kenyan crisis agreed. BBC (12 Ebrill, 2008). Adalwyd ar 12 Ebrill, 2008. "A deal has been agreed between Kenyan President Mwai Kibaki and opposition leader Raila Odinga to form a cabinet - ending a long-running political crisis."
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Kenyan opposition cancels protests. BBC (7 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 7 Ionawr, 2008.
  3. http://www.ynetnews.com/articles/0,7340,L-3491386,00.html
  4. (Saesneg) Scores dead in Kenyan poll clashes. BBC (31 Rhagfyr, 2007). Adalwyd ar 3 Ionawr, 2008.
  5. (Saesneg) Gettleman, Jeffrey (31 Rhagfyr, 2007). Disputed Vote Plunges Kenyan Into Bloodshed. The New York Times. Adalwyd ar 3 Ionawr, 2008.
  6.  Key points: Kenyan power-sharing deal. BBC (28 Chwefror, 2008). Adalwyd ar 12 Ebrill, 2008.
  7. (Saesneg) Mynott, Adam (7 Chwefror, 2008). Kenyan economy reels from crisis. BBC. Adalwyd ar 12 Ebrill, 2008.
  8. 8.0 8.1 (Saesneg) Kenyan diplomatic push for peace. BBC (2 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 3 Ionawr, 2008.
  9. (Saesneg) Brown appeals for unity in Kenyan. BBC (1 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 3 Ionawr, 2008.