Adpar

pentref yng Ngheredigion
(Ailgyfeiriad o Atpar)

Hen fwrdeistref ar lan ogleddol afon Teifi yng Ngheredigion sydd bellach yn faesdref i Gastellnewydd Emlyn yw Adpar("Cymorth – Sain" ynganiad ) (ceir y ffurf Atpar weithiau hefyd). Mae'n rhan o blwyf a chymuned Llandyfriog, Ceredigion, er bod Castellnewydd Emlyn ei hun, dros yr afon, yn Sir Gaerfyrddin.

Adpar
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandyfrïog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.041°N 4.467°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN309409 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Hen enw Adpar oedd Trefhedyn ac roedd yn un o hen fwrdeistrefi Sir Aberteifi. Mae gan Adpar ei le yn hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg fel cartref i'r argraffwasg barhaol gyntaf yng Nghymru a sefydlwyd yno yn 1718 gan Isaac Carter (m. 1741). Cyhoeddodd Carter ddau bamffledyn, 'Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco' gan Alban Thomas a 'Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau' gan awdur anhysbys yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin.

Darfu am Adpar fel bwrdeistref yn 1774 a daeth yn ddiweddarach yn faesdref i Gastellnewydd Emlyn.

Mae Adpar yn gartref i Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.

Cyfeiriadau golygu