Baddha Konasana (Y Crudd)

asana eistedd, mewn ioga

Asana eistedd o fewn ymarferion ioga yw Baddha Konasana (Sansgrit: बद्धकोणासन; IAST: baddhakoṇāsana), Asana Ongl Clwm, neu Y Crydd (ar ôl safle eistedd nodweddiadol cryddion Indiaidd (a Chymreig) pan fyddant yn gweithio).[1] Yn hanesyddol, gelwid yr asana hon yn Bhadrasana,[2] Yr Orsedd,[2] ac fe'i ceir o fewn ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff. Os yw'r pengliniau'n gorffwys ar y llawr, mae'n addas fel safle cyfforddus i fyfyrio ac ymlacio.[2]

Baddha Konasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd, asanas ymlaciol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit बद्ध, Baddha sy'n golygu "rhwym" neu "clwm", कोण, Koṇa sy'n golygu "ongl",[3] ac आसन, Āsana sy'n golygu "ystum" neu "safle'r corff".[4]

Mae'r enw Baddha Konasana yn gymharol ddiweddar, ond mae'r osgo yn ganoloesol,dan yr enw Bhadrasana (o भद्रा Bhadra, "gorsedd"[5]) a gyhoeddwyd yn yr Haṭha Yoga Pradīpikā 1.53-54 yn y 15g.[2]

 
Crydd yn Rajasthan, yn gweithio yn Ardha Baddha Konasana

Disgrifiad golygu

O'r safle eistedd gyda'r ddwy goes wedi'u hymestyn ymlaen, rhoddir y dwylo wrth yr ochrau, cledrau'n gorffwys ar y llawr, bysedd gyda'i gilydd yn pwyntio ymlaen, mae'r coesau wedi'u colfachu wrth y pengliniau fel bod gwadnau'r traed yn cwrdd. Gafaelir yn y fferau a'u plygu'n fwy nes bod y sodlau'n cyrraedd y perinewm. Symudir y pen-gliniau i lawr ar y llawr, a chydag arfer fe'i cyrhaeddir; mae'r corff yn codi a'r llygaid yn syllu ymlaen. Mae'r asana yn cael ei ddal cyn dod yn ôl i'r man cychwyn. Mae'r cluniau'n cael eu hymestyn yn ofalus. Pan gaiff ei ddefnyddio ar gyfer myfyrdod, rhoddir y dwylo yn safle Anjali mudra (safle gweddi) o flaen y frest.[6]

Mae'r asana yma'n agor cluniau a'r afl led y pen,[7] ac mae'n un o'r ychydig asanas y gellir ei ymarfer yn gyfforddus yn fuan ar ôl bwyta, ac eithrio'r amrywiad plygu ymlaen gyda'r pen ar y llawr. Honnir yn Light on Yoga bod Baddha Konasana yn fuddiol i fenywod beichiog, gan fod ymarfer rheolaidd yn lleihau poen yn ystod yr enedigaeth.[8] Os oes anaf i'r afl neu'r pen-glin, rhaid cynnal y pen-gliniau ar flancedi wedi'u plygu.[9]

Amrywiadau golygu

Amrywiad cyffredin yw Supta Baddha Konasana,[10] Crudd yn Gorwedd, o सुप्त, supta, sy'n golygu "gorwedd" neu "ledorwedd".[11]

Yn ystod beichiogrwydd, gellir ymarfer yr asana yn lledorwedd fel "Pilipala ar Wal", gyda'r pen-ôl a'r traed yn erbyn wal, y traed gyda'i gilydd, a'r pen-gliniau'n disgyn i'r ochrau. Gellir defnyddio'r dwylo i wasgu'r pengliniau.[12]

Gyda Tarasana (y Seren), dylai'r corff bwyso ymlaen dros y traed sydd wedi'u gorchuddio.[13]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Claire, Thomas (2003). Yoga for Men: Postures for Healthy, Stress-Free Living. Career Press. t. 170. ISBN 978-1-56414-665-6.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "How to do Bhadrasana?". The Yoga Institute. 3 Awst 2018. Cyrchwyd 5 Ionawr 2019.
  3. "Baddha Konasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 April 2011. Cyrchwyd 11 April 2011.
  4. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  5. "Bhadrasana". SivaSakti.com. Cyrchwyd 5 Ionawr 2019.
  6. Iyengar 1991, tt. 128–129.
  7. Swanson, Ann (2019). Science of yoga : understand the anatomy and physiology to perfect your practice. DK Publishing. t. 50. ISBN 978-1-4654-7935-8. OCLC 1030608283.
  8. Iyengar 1991.
  9. "Bound Angle Pose". Yoga Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2011. Cyrchwyd 8 Mehefin 2019."Bound Angle Pose". Yoga Journal. Archived from the original on 12 Mai 2011. Retrieved 8 June 2019.
  10. Bhagat (2004). Alternative Therapies. Jaypee Brothers Publishers. t. 40. ISBN 978-81-8061-220-6.
  11. Mehta 1990.
  12. Lidell, Lucy, The Sivananda Yoga Centre (1983). The book of yoga. Ebury. t. 165. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
  13. "Tarasana". Yogapedia. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.

Darllen pellach golygu