Bathafarn

tŷ rhestredig Gradd II yn Llanbedr Dyffryn Clwyd

Plasty ydy Bathafarn (Cyfeirnod OS: SJ1457) oddeutu kilometr a hanner allan o dref hynafol Rhuthun, Sir Ddinbych. Yma y ganwyd a magwyd Edward Jones (1778-1837) ger eglwys Llanrhudd (neu 'Llanrhydd'), gweinidog gyda'r Wesleiaid ac un o sefydlwyr pwysicaf y mudiad hwnnw yng Nghymru.

Bathafarn
Enghraifft o'r canlynolplasty gwledig Edit this on Wikidata
Rhan oYstad Parc Bathafarn Edit this on Wikidata
LleoliadLlanbedr Dyffryn Clwyd Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthLlanbedr Dyffryn Clwyd Edit this on Wikidata
Am y cylchgrawn, gweler Bathafarn (cylchgrawn).

Dywed adroddiad CPAT ar hanes yr ardal: Gwnaed gwelliannau tir sylweddol yn ystod ail hanner y 16eg ganrif, fel yn achos yr hen barc hela canoloesol blaenorol ym Mathafarn, a ddisgrifiwyd yn flaenorol ‘wedi tyfu’n wyllt gyda choed a drain ac roedd ambell ddarn ohono yn gorstir fel na allai unrhyw wartheg bori arno dros y gaeaf heb fod mewn perygl o foddi’. Yma, rhwng y 1550au a’r 1590au y cofnodwyd bod y Thelwalls wedi nid yn unig godi adeiladau a’u gwella ar y parc y sonnir amdano… [1]

John Wynn Thelwall a gododd y plasty a bu yn nwylo teulu'r Thellwall hyd at 1811 pan cafodd ei werthu i Joseph Ablett. Pan fu ef farw yn 1848 aeth yr ystâd (a phlasty 'Llanbedr Hall' gerllaw i ddwylo ei gefnder o Fanceinion. Newidiodd ddwylo, gan leihau yn ei faint pob tro. Gwerthwyd y lle yn 1952, gyda dim ond 70 erw o dir i'r teulu 'Smith' a drodd e'n fflatiau, ac sy'n dal yn berchnogion.

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] Gwefan CPAT]
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato