Ci o frîd Rafeiro do Alentejo o Bortiwgal oedd Bobi (11 Mai 199221 Hydref 2023) a gydnabyddir fel y ci hynaf erioed y gellir cadarnhau ei oedran. Bu farw yn 31 mlynedd a 165 diwrnod oed (11,478 o ddyddiau ar y ddaear i gyd). Treuliodd Bobi ei holl fywyd gyda'r teulu Costa ym mhentref Conqueiros, Portiwgal.[1]

Bobi
Bobi yn 2023
Enghraifft o'r canlynolci, anifail unigol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar 2 Chwefror 2023 derbyniodd gydnabyddiaeth Guinness World Records fel y ci cyntaf i gyrraedd 30 oed, a'r ci hynaf erioed, gan dorri record a osodwyd gan Bluey (1910–39), Ci Gwartheg Awstralaidd, a fu farw yn 29 mlynedd a phum mis oed. Cadarnhawyd oedran Bobi gan y gronfa ddata o anifeiliaid anwes a gedwir gan Undeb Cenedlaethol y Milfeddygon ar gyfer llywodraeth Portiwgal. Ar 11 Mai 2023 trodd Bobi yn 31 oed,[2] a bu farw pum mis yn ddiweddarach.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Kathryn Armstrong, "Bobi, the world's oldest dog ever, dies aged 31", BBC (23 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Hydref 2023.
  2. (Saesneg) "World's oldest dog Bobi the Rafeiro celebrates his 31st birthday with massive party plans", Australian Broadcasting Corporation (12 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Hydref 2023.