Bryn yn Sir Gaerfyrddin yw Bryn Myrddin. Ceir bryngaer gynhanesyddol ar ei gopa. Fe'i lleolir ger y Felin-wen, rhwng Abergwili a Nantgaredig tua 2.5 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ac i'r gogledd o'r briffordd A40 yn Nyffryn Tywi; cyfeirnod OS: SN454215.

Bryn Myrddin
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8707°N 4.246°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN45502150 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCM231 Edit this on Wikidata

Bryngaer golygu

 
Bryn Myrddin

Gorchuddir llawer o lethrau Bryn Myrddin gan goed. Ni ddarganfuwyd y gaer Geltaidd yno gan archaeolegwyr tan yn bur ddiweddar. Mae'n amgau 4 hectar o dir ac mae'n cael ei amddiffyn gan glawdd trwchus enfawr. Ceir mynedfa yng nghornel y gogledd-ddwyrain a amddiffynir gan droad i mewn tyn a gwaith amddiffynnol allanol sylweddol.[1]

Myrddin golygu

Ymddengys fod y cysylltiad ag enw Myrddin, y bardd a dewin o'r cyfnod ôl-Rufeinig sydd â rhan amlwg yn chwedlau cylch Arthur, yn hen. Cyfeirir y bardd Seisnig Edmund Spenser (c.1522-1599) ato fel "Merlin's Hill" yn ei gerdd hir The Faerie Queene. Mae'n cofnodi traddodiad lleol fod gan Fyrddin efail danddaearol dan y bryn, a bod trwst y gofion wrth eu gwaith i'w clywed pe rhoddir clust ar y ddaear.[2]

Cadw golygu

Cofrestrwyd bryngaer Bryn Myrddin gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM231.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 169.
  2. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Cyfres Crwydro Cymru, Llandybie, ail argraffiad 1970), tud. 268-69.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2013-05-13.
  6. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2013-05-13.

Gweler hefyd golygu